Skip page header and navigation

Euogfarnau Troseddol - Gwybodaeth i Ymgeiswyr a Myfyrwyr

Er mwyn diogelu ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ac i alluogi i’r Brifysgol ddarparu’r gefnogaeth briodol, anogir y rheiny sy’n gwneud cais i’r Brifysgol a myfyrwyr sydd wedi cofrestru i ddatgan p’un a oes ganddynt unrhyw euogfarnau troseddol cyn gynted â phosibl.

Bydd unrhyw ddatganiad o euogfarn, ac unrhyw wybodaeth ddilynol a ddatgelir mewn perthynas â’r datganiad, yn cael ei drin â sensitifrwydd, ei gadw’n gwbl gyfrinachol, ei ddatgelu i aelodau staff dynodedig y Brifysgol yn unig a’i reoli’n unol ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

Yn PCYDDS rydym yn ymrwymo i ddileu rhwystrau rhag cyfranogi mewn addysg uwch ac yn cefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial. Ni fydd bod â chofnod troseddol yn eithrio unigolyn yn awtomatig rhag astudio gyda ni. Mae gan y Brifysgol staff hyfforddedig sy’n gallu cynnig cyngor a chymorth perthnasol i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cofrestredig. Os hoffech siarad gyda rhywun yn gyfrinachol am eich euogfarnau troseddol ac addasrwydd cyrsiau, e-bostiwch disclosures@uwtsd.ac.uk ac fe gysylltwn â chi cyn gynted â phosibl.

Gall y Tîm Gwasanaethau Mewnfudo a Chydymffurfiaeth Fisâu international.registry@uwtsd.ac.uk hefyd ddarparu cyngor cysylltiedig ynghylch materion mewnfudo ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol. Bydd rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol yn unol â gofynion y Swyddfa Gartref.

Canllawiau i Ymgeiswyr

Yn amodol ar y rhaglen astudio y gwneir y cais amdano, mae gwahanol ofynion a gweithdrefnau ar waith yn gysylltiedig â datgelu euogfarnau troseddol.

  • Mae rhai rhaglenni astudio a gynigir yn PCYDDS yn arwain at alwedigaethau sydd wedi’u heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (fel rhaglenni hyfforddi athrawon). Bydd y rhaglenni hyn yn cynnwys lleoliad neu weithgaredd sy’n galw am gyswllt sylweddol gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed, y cyfeirir atynt fel gweithgaredd rheoledig.

    Bydd rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cofrestru ar raglenni rheoledig gael datgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn cofrestru’n llawn yn fyfyriwr yn y Brifysgol, a chyn y caniateir iddynt wneud unrhyw waith lle mae gofyn cysylltu â phlant neu oedolion sy’n agored i niwed.

    Os oes rhaid cael gwiriad DBS ar gyfer rhaglen astudio, caiff hyn ei nodi’n glir ar dudalen wybodaeth y cwrs ar wefan PCYDDS (ac ar wefan UCAS os yn berthnasol). 

    P’un a ydynt yn gwneud cais i gyrsiau sy’n gofyn am wiriad DBS manylach trwy UCAS neu’n uniongyrchol i’r Brifysgol, gofynnir i ymgeiswyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol a fyddai’n ymddangos ar wiriad DBS manylach ar eu ffurflen gais. Gofynnir i ymgeiswyr sy’n nodi bod ganddynt euogfarnau troseddol lenwi Ffurflen Hunan Ddatganiad Euogfarn(au) Troseddol y Brifysgol.   

    Ar gyfer rhaglenni o’r fath, rhaid i ymgeiswyr a myfyrwyr ddatgelu pob euogfarn heb ei ddisbyddu a rhybuddion amodol, a phob euogfarn wedi’i disbyddu a rhybudd i oedolyn nad ydynt wedi’u hamddiffyn (h.y. heb eu hidlo) yn ôl diffiniad Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) Gorchymyn 1975 (fel y’i diwygiwyd yn 2020).

    Cynhelir asesiad academaidd o’r cais yn y ffordd arferol, ond ni fydd y penderfyniad i gynnig lle neu beidio yn cael ei wneud nes ar ôl i Banel Adolygu Euogfarnau Troseddol y Brifysgol adolygu Ffurflen Hunan Ddatganiad Euogfarn(au) Troseddol yr ymgeisydd ac unrhyw wybodaeth olynol a ddarperir mewn perthynas â’r datganiad. Bydd y Panel yn penderfynu a yw unrhyw euogfarnau neu wybodaeth a ddatgelir yn anghydnaws â lle ar raglen astudio.

    Bydd ymgeiswyr sy’n derbyn cynnig o le wedi hyn yn cael cyfarwyddiadau ar sut i gynnal a chwblhau gwiriad DBS trwy ‘Datgeliadau Mantais Gyntaf Ar-lein ‘, gwasanaeth datgelu electronig ar-lein.   

    Ceir rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais am wiriad DBS ar y dudalen Gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

    Os na fydd ymgeisydd yn datgelu euogfarn ar eu Ffurflen Hunan Ddatganiad Euogfarnau Troseddol sydd wedyn yn ymddangos ar eu gwiriad DBS manwl, bydd eu cais yn cael ei gyfeirio yn ôl i’r Panel Adolygu Euogfarnau Troseddol a fydd yn penderfynu os yw unrhyw euogfarnau neu wybodaeth a ddatgelwyd yn anghydnaws â lle ar raglen astudio.

    Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi’u harestio, eu cyhuddo, neu eu cael yn euog o dramgwydd troseddol ar ôl gwneud cais roi gwybod i’r Brifysgol ar unwaith drwy e-bostio disclosures@uwtsd.ac.uk. Gallai methu â rhoi gwybod i’r Brifysgol arwain at wrthod cais, neu fod y Brifysgol yn tynnu lle a gynigiwyd yn ôl.

    Ceir gwybodaeth bellach ym Mholisi Derbyn y Brifysgol

  • Rhaglenni lle nad oes angen Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

    Ar ôl derbyn cynnig yn bendant am le ar raglen astudio nad yw’n cynnwys cyswllt gyda phlant neu oedolion agored i niwed, caiff ymgeiswyr eu gwahodd i lenwi Ffurflen Hunan Ddatganiad Euogfarn(au) Troseddol.

    Anogir y sawl sy’n gwneud cais i raglenni o’r fath ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol ‘heb eu disbyddu’ ‘perthnasol’ a/neu rybuddion amodol ac i ddarparu manylion unrhyw gyfyngiadau neu ofynion prawf a allai effeithio ar eu hastudiaethau.

    Euogfarnau troseddol ‘perthnasol’ yw’r rheiny sy’n cynnwys troseddau yn erbyn yr unigolyn, p’un a yw o natur treisgar neu rywiol, euogfarnau ar gyfer troseddau sy’n cynnwys cyflenwi cyffuriau neu sylweddau rheoledig yn anghyfreithlon lle bo’r euogfarn yn ymwneud â delio neu fasnachu mewn cyffuriau yn fasnachol, a throseddau sy’n cynnwys arfau tanio, tanau bwriadol a therfysgaeth.

    Ni ystyrir bod euogfarnau sydd wedi’u ‘disbyddu’ (yn ôl diffiniad Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974) yn berthnasol ac nid oes angen eu datgelu.   Gall ymgeiswyr sy’n dymuno datgelu euogfarn troseddol wedi’i disbyddu drafod hyn yn gyfrinachol gyda staff hyfforddedig yn y Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn gallu rhoi cymorth perthnasol iddynt.

    Bydd y ffurflen hunan ddatganiad gorffenedig ac unrhyw wybodaeth olynol a ddarperir mewn perthynas â’r datganiad yn cael eu hystyried gan Banel Adolygu Euogfarnau Troseddol y Brifysgol.  Bydd y Panel yn ystyried p’un a yw cyfyngiadau neu ofynion prawf y gallai’r ymgeisydd fod yn destun iddynt yn dilyn euogfarn yn gydnaws â lle ar raglen astudio. Bydd y panel yn cymryd i ystyriaeth unrhyw addasiadau y gellir eu gwneud i hwyluso’r astudio.

    Er nad oes efallai angen gwiriad DBS i gael mynediad i’w rhaglen astudio, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gall eu cyflogwyr posibl yn y DU ofyn iddynt gael gwiriad DBS yn rhan o’r broses recriwtio neu yn ystod eu cyflogaeth dilynol.  Felly, argymhellir bod yr ymgeiswyr hynny sy’n dymuno astudio cyrsiau gyda’r bwriad o ddilyn gyrfa benodol, yn cynnal ymchwil i’r gofynion proffesiynol a chymryd y wybodaeth hon i ystyriaeth.

  • The University will consider implementing the Non-Academic Misconduct Policy if a student has failed to declare a relevant criminal conviction when appropriate at the admission stage.

    Any person arrested, charged or convicted of a crime whilst a student at the University will be subject to the University’s Non-Academic Misconduct Policy and will be required to declare this at the earliest point. 

    Continuing students will be required to confirm at re-enrolment that they do not have a relevant criminal conviction that has not previously been declared to the University.

    Students who at a later stage in their programme of study indicate that they wish to enrol on an optional module that involves working with children, young people or vulnerable adults will be required to declare any relevant convictions and gain a satisfactory enhanced disclosure from the Disclosure and Barring Service before they can proceed to undertake the module.

Y Panel Adolygu Euogfarnau Troseddol

Mae Panel Adolygu Euogfarnau Troseddol y Brifysgol yn cynnwys Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr, Pennaeth Gweithredol y Gofrestrfa, Rheolwr Derbyn a Rheolwr Gwasanaethau’r Gofrestrfa. Mae’r Panel yn cwrdd yn wythnosol neu pan fo angen er mwyn adolygu achosion a gyfeirir atynt drwy’r Gofrestrfa. Yn amodol ar natur a difrifwch yr euogfarnau a ddatgelir a’r rhaglen astudio dan sylw, gellir gwahodd aelodau eraill o staff fel Deon Cynorthwyol yr Athrofa, y Swyddog Diogelu Data, a lle bo’n briodol, y Rheolwr Llety i ymuno â’r Panel mewn rôl ymgynghorol. 

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod lle neu i dynnu cynnig o le yn ôl os yw’n ystyried y gallai derbyn ymgeisydd beryglu diogelwch cymuned y Brifysgol neu lle bo euogfarnau neu wybodaeth a ddatgelir, neu gyfyngiadau neu ofynion prawf y mae’n rhaid i’r ymgeisydd gadw atynt, yn anghydnaws â lle ar raglen astudio.

    • Yr hyn a astudiwyd hyd yma;
    • Natur y trosedd(au) a’u perthnasedd i’r rhaglen astudio dan sylw;
    • Dyddiad(au) y trosedd(au);
    • Unrhyw batrwm aildroseddu;
    • Unrhyw amgylchiadau lliniarol cysylltiedig â’r trosedd(au);
    • A yw amgylchiadau’r ymgeisydd / myfyriwr wedi newid ers cyflawni’r trosedd(au);
    • Argymhellion a ddarperir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol, fel adroddiad Swyddog Prawf (lle bo’n berthnasol);
    • P’un a allai’r ymgeisydd gwblhau’r rhaglen astudio’n llwyddiannus, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfyngiadau a/neu ofynion prawf. Bydd y Panel yn ystyried unrhyw addasiadau y gellir eu gwneud er mwyn hwyluso astudio a p’un a ellir gwneud y rhain mewn pryd erbyn dyddiad dechrau’r cwrs neu i alluogi’r myfyrwyr cofrestredig i barhau ar eu rhaglen astudio;
    • P’un a ellir caniatáu i’r ymgeisydd fyw mewn llety y mae’r Brifysgol yn berchen arno, gan gymryd unrhyw gyfyngiadau neu ofynion i ystyriaeth.
    1. bod y cynnig gwreiddiol a wnaed i’r ymgeisydd yn sefyll; neu y gall y cais barhau i gael ei brosesu yn y ffordd arferol heb fod angen unrhyw gamau pellach;
    2. y gall y myfyriwr cofrestredig barhau ar eu rhaglen astudio heb fod angen unrhyw gamau pellach;
    3. bod angen gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd/myfyriwr cofrestredig s/neu wasanaethau priodol, neu y bydd angen cynnal asesiad risg i alluogi’r Panel i wneud penderfyniad;
    4. diwygio’r cynnig o le a wnaed yn flaenorol i’r ymgeisydd. Gall hyn gynnwys gosod amodau pellach a/neu addasiadau i’r rhaglen astudio (e.e. na chaiff yr ymgeisydd fyw mewn nac ymweld â neuaddau preswyl a chaiff eu cydymffurfiaeth ei fonitro, neu y dylid cynnig rhaglen astudio wahanol i’r un mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais iddi, neu ddyddiad dechrau gohiriedig);
    5. y bydd angen gosod amodau wrth cofrestriad parhaus y myfyriwr a/neu y bydd angen addasiadau i alluogi’r myfyriwr i gwblhau eu rhaglen astudio yn llwyddiannus;
    6. bod y cais, neu’r cynnig a wnaed yn flaenorol i’r ymgeisydd, yn cael ei dynnu’n ôl;
    7. bod achos y myfyriwr cofrestredig wedi’i atgyfeirio ac y bydd proses ddisgyblu myfyrwyr y Brifysgol yn ymdrin ag ef.

    Bydd rhesymau’r Panel am y penderfyniad yn cael eu rhoi ym mhob achos. Bydd ymgeiswyr/myfyrwyr yn cael gwybod os yw’n amod o’u derbyn/cofrestriad parhaus y bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i aelodau penodol y staff yn ôl yr angen.

  • Bydd apêl yn erbyn penderfyniad y Panel yn cael ei ystyried lle bo rhesymau digonol, fel a amlinellir ym Mholisi a Gweithdrefnau Adborth, Apeliadau a Chwynion Derbyn y Brifysgol sydd ar gael ym Mholisi Derbyn a Thelerau ac Amodau ar gyfer Ymgeiswyr.

Storio a chadw gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol

Bydd unrhyw wybodaeth a ddatgelir gan fyfyrwyr arfaethedig a chofrestredig mewn perthynas ag euogfarnau troseddol yn cael ei chadw’n electronig ac ni chaiff ei chadw’n hirach nag sy’n rhaid at y diben y cafodd ei darparu. Mae rhagor o wybodaeth ar bolisïau’r Brifysgol ar ddiogelu data ar ein tudalen Polisïau ar Ddiogelu Data.