Llysgenhadon Myfyrwyr
Dewch yn un o Lysgenhadon Myfyrwyr PCYDDS
Rhannwch Eich Stori
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr cyfeillgar, dibynadwy i ymuno â’n tîm Llysgenhadon Myfyrwyr! Byddwch yn cefnogi diwrnodau agored, sesiynau blasu, a digwyddiadau recriwtio eraill – gan rannu sut mae bywyd myfyrwyr mewn gwirionedd yma yn PCYDDS. P’un a ydych yn sgwrsio gydag ymwelwyr wyneb yn wyneb neu’n postio ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n llwyfannau ar-lein, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth groesawu’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr PCYDDS.
Adeiladwch Eich Sgiliau!
Fel rhan o’r Tîm Llysgenhadon Myfyrwyr, byddwch yn mynd â’ch sgiliau i’r lefel nesaf wrth gael gwir effaith ar y campws. O fireinio eich cyfathrebu drwy siarad cyhoeddus ac ymgysylltu â chyfoedion, i ddatblygu arweinyddiaeth drwy arwain teithiau neu fentora eraill, byddwch yn tyfu mewn hyder a’r gallu i addasu. Byddwch hefyd yn cryfhau’ch galluoedd gwaith tîm, rheoli amser, a datrys problemau – i gyd wrth ennill profiad ymarferol a chreu cysylltiadau parhaus. Mae’n fwy na rôl yn unig – mae’n gyfle i chi dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.
Cewch eich Gwobrwyo
Yn ogystal â thâl cystadleuol sy’n alinio â’r Cyflog Byw Gwirioneddol; byddwch yn ennill profiad a hyfforddiant gwerthfawr fel llysgennad a fydd yn cryfhau’ch CV ac yn agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol. Byddwch yn adeiladu cyfeillgarwch parhaus, creu atgofion bythgofiadwy, a chael mynediad at eirdaon sy’n cefnogi’ch taith gyrfa – i gyd wrth chwarae rôl allweddol mewn llunio cymuned fywiog a chynhwysol yn PCYDDS.
Gwneud Cais a Mathau o Swyddi
Mae llysgennad myfyrwyr da yn frwdfrydig ynghylch PCYDDS a’r cyrsiau mae’n eu cynnig, yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, yn dda am gyfathrebu gyda phobl newydd ac yn gyfforddus wrth siarad yn gyhoeddus.
Dyma syniad o’r hyn mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn ei wneud…
Fel y gwelwch nid oes dau ddiwrnod yr un fath pan fyddwch yn llysgennad myfyrwyr ac rydym wedi gosod y dyletswyddau’n ôl mathau o waith isod. Os oes rolau penodol o ddiddordeb i chi, gwnewch nodyn or rhain ar eich cais. Ond peidiwch â phoeni, gallwch ddewis gweithio ar draws yr holl rolau os hoffech chi gyda’n hymagwedd hyblyg at dderbyn llysgenhadon newydd.
Enghreifftiau o Gyfleoedd i Lysgenhadon
- Cynrychioli PCYDDS mewn Diwrnodau Agored a Digwyddiadau Recriwtio eraill – arddangos ein campysau gwych a rhannu eich stori gyda darpar fyfyrwyr a theuluoedd.
- Dod yn Llysgennad Unibuddy Ar-lein - sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a chreu blogiau a blogiau fideo i dynnu sylw at sut mae bywyd myfyrwyr mewn gwirionedd yn PCYDDS.
- Cefnogi Allgymorth ac Ehangu Mynediad – cynorthwyo gyda sesiynau i ysgolion a chymunedau neu helpu i redeg sesiynau preswyl dros nos fel rhan o’n mentrau Ymestyn yn Ehangach.
- Ymuno â’r Mentora Cenedlaethol – darparu cymorth 1:1 ar-lein i ddysgwyr Blwyddyn 12 a 13, gan eu helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau allweddol, ac archwilio eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
- Bod yn Grëwr Cynnwys Myfyrwyr – cynhyrchu cynnwys deniadol a llawn hwyl ar gyfer ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan ddal profiad PCYDDS ar ac oddi ar y campws.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill – o gefnogi gweithgareddau pwnc-benodol i helpu mewn Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau Croeso yr Hwb, mae yna ddigonedd o ffyrdd i gyfrannu ac i gymryd rhan.
Dim ond blas yw’r cyfleoedd uchod o’r hyn y gallech chi fod yn rhan ohono fel Llysgennad Myfyrwyr. Efallai na wnewch y cyfan, ond mae digonedd i deimlo’n gyffrous amdano! Gallai fod angen ychydig o gamau ychwanegol i ddechrau ar rai o’r gweithgareddau, ond os yw hyn yn swnio fel y math o beth sy’n mynd â’ch bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Ymgeisiwch Heddiw a chymerwch ran!
Ymunwch â'r Tîm
Os oes diddordeb gennych i ymuno â’r tîm cysylltwch â ni.
Gwahoddir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, byddwch yn cael eich gwahodd i Gyfweliad. Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu sesiwn hyfforddi.