Gwybodaeth am y Fwrsariaeth
Ynglŷn â’r Fwrsariaeth | Diben y fwrsariaeth hon yw helpu gyda chostau dyfais neu ryngrwyd. |
Cymwys/Meini Prawf |
Bwriad y fwrsariaeth Cysylltedd Digidol hon yw darparu cymorth i fyfyrwyr cartref (sy’n gymwys i gael cyllid myfyrwyr) nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a / neu ddarpariaeth rhyngrwyd ar gyfer eu hastudiaethau ac y mae cyllid yn rhwystr i brynu eu dyfais eu hunain. Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr cymwys yn eu semester cyntaf o astudiaethau yn y Drindod Dewi Sant sy’n ceisio cyfraniad ariannol tuag at gysylltedd digidol (hyd at £100) neu gostau dyfeisiau a chysylltedd (hyd at £300). Bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu cofrestru ar o leiaf 40 credyd ar gwrs Y Drindod Dewi Sant a byddant yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Cyllid Myfyrwyr. Bydd angen i fyfyrwyr sy’n derbyn uchafswm y Cyllid Myfyrwyr ac yn dymuno derbyn cymorth drwy’r llwybr cais hwn wneud y canlynol: - Darparu copi o’ch llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eich bod yn derbyn uchafswm y cyllid myfyrwyr. |
Sut i wneud cais | Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. |
Additional Information |
SYLWER: Os nad ydych yn derbyn yr uchafswm cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr, mae gennych ddau lwybr amgen ar gyfer cymorth. 1) Os gwnaethoch brynu eich dyfais eich hun, gallwch wneud cais am hyd at £250 tuag at y gost drwy’r fwrsariaeth Costau’r Cwrs. Bydd angen i chi ddarparu copi o’r dderbynneb ar gyfer eich pryniant. 2) Os nad ydych yn gallu fforddio prynu eich dyfais eich hun, gallwch wneud cais am gymorth drwy’r fwrsariaeth hon ond gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi eich cais. Bydd angen i chi:
|
Gwerth y Dyfarniad | Hyd at £300 |