Llety Rhyngwladol
Llety i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Gall ein Tîm Llety eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r llety mwyaf addas tra byddwch yn astudio yn PCYDDS.
Unwaith y byddwch chi wedi derbyn eich cynnig gan PCYDDS yn gadarn, mae’n bryd i chi ystyried ble byddwch yn byw tra byddwch yn astudio.
Yng Nghaerfyrddin mae ein myfyrwyr Rhyngwladol yn cael eu cartrefu yn neuaddau preswyl y brifysgol. Gwnewch eich cais gan ddefnyddio’r ddolen Hallpad. Bydd angen i chi fod wedi derbyn eich rhif myfyriwr i gael mynediad i’r porth.
Ar gyfer Abertawe, Caerdydd, Birmingham a Llundain, lle mae llety myfyrwyr preifat ar gael, mae cymorth pellach ar gael trwy gysylltu â’r tîm llety.
Accordions
-
I wneud cais am lety ar ein campws yng Nghaerfyrddin defnyddiwch y ddolen isod, bydd angen i chi fod wedi derbyn eich rhif myfyriwr i gael mynediad i’r porth.
-
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
contact
Cysylltu â'r Tîm Llety
Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.