Gwybodaeth am y Fwrsariaeth
Ynglŷn â’r Fwrsariaeth | Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo â chostau sy’n gysylltiedig â chwrs. |
Cymwys/Meini Prawf |
Holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gwrs a ddarperir gan y Drindod Dewi Sant (o leiaf 40 credyd) Hyd at £250 i gefnogi myfyrwyr sy’n gwneud cais am gostau sy’n gysylltiedig â’r cwrs. Gall costau sy’n gysylltiedig â’r cwrs gynnwys llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati. Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnwyd amdano yn llai na £250, yr uchafswm cyfanredol y gellir ei ddyfarnu ar gyfer unrhyw fyfyriwr mewn un flwyddyn academaidd yw £250. |
Sut i wneud cais | Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. |
Gwybodaeth Ychwanegol | Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar gyflwyno derbynebau prynu. Os nad yw myfyrwyr yn gallu talu costau ymlaen llaw, yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol Myfyrwyr. |
Gwerth y Dyfarniad | Hyd at £250 |