Gwybodaeth am y Fwrsariaeth
Ynglŷn â’r Fwrsariaeth | Diben y fwrsariaeth hon yw helpu gyda chostau cysylltiedig â gweithgaredd lleoliadau gorfodol. |
Cymwys/Meini Prawf |
Hyd at £250 i gefnogi myfyrwyr sy’n ymgymryd â gweithgaredd lleoliad gorfodol yn rhan o’u cwrs. Fel arfer dyfernir y bwrsari hwn fel ad-daliad wrth gyflwyno derbynebau prynu. Ble nad yw myfyrwyr yn gallu talu costau ymlaen llaw anogir iddynt wneud ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol Myfyrwyr. Er bod myfyrwyr yn gallu gwneud mwy nag un cais lle bo’r cymorth y gofynnir amdano’n llai na £250, uchafswm y cyfanswm y gellir ei ddyfarnu i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250. |
Sut i wneud cais | Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. |
Gwybodaeth Ychwanegol | Dylai’r cais gynnwys amlinelliad o’r lleoliad a dadansoddiad o’r costau ynghyd â chyfeiriad y lleoliad a phellter y daith. |
Gwerth y Dyfarniad | Hyd at £250 |