Cyflwyniad
Mae gennym amrywiaeth o fwrsariaethau sy’n cael eu rhoi i fyfyrwyr yn seiliedig ar angen ac yn dod ar ffurf hepgoriadau ffioedd.
Bwrsariaethau i Israddedigion
Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr dan 25 sydd â phrofiad o fod mewn gofal i gynorthwyo â chostau cychwynnol adnoddau ac offer.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £1000

Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo pob myfyriwr sydd wedi neu sydd wrthi’n cael eu hasesu ar gyfer anabledd gydag unrhyw gostau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'u hanabledd i hwyluso eu hastudiaethau.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £700

Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £1000

Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr cartref BAME neu deithwyr Lefel 5 neu 6 sy'n dymuno ymgymryd â gweithgaredd ymchwil neu berfformio.
Hyd at £500

Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £1000

Mae’r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALlC 40.
Gwerth y Fyarniad: Hyd at £100

Diben y fwrsariaeth hon yw darparu cymorth i fyfyrwyr sydd â statws ceisio lloches neu ffoadur yn y DU.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £250

Diben y fwrsariaeth hon yw darparu cymorth gyda chymorth llesiant.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £250

Mae pob Athrofa Academaidd yn y Brifysgol yn cynnig bwrsariaethau hyd at £500 i gefnogi myfyrwyr cofrestredig yn eu semester cyntaf o'u blwyddyn gyntaf o astudio yn y Brifysgol.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £500

Mae'r Fwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd Menywod mewn STEM yn dyfarnu hyd at £500 i unrhyw fyfyriwr israddedig sy'n hunan-adnabod fel menyw ac sydd ar un o'n cyrsiau STEM.
Hyd at £500

Bwrsari dilyniant penodol ar gyfer myfyrwyr cartref israddedig o Goleg Sir Gar a Choleg Ceredigion.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £500

Efallai caiff myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac mewn addysg uwch ac yn astudio’n rhan-amser gael hepgor eu ffioedd os ydynt yn bodloni amodau penodol, yn amodol ar bryd y dechreuasant eu cwrs.
Gwerth y Dyfarniad: Hepgor Ffioedd

Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo â chostau datblygu gyrfa a phrofiad gwaith.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £1000

Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo â chostau sy'n gysylltiedig â chwrs.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £250

Diben y fwrsariaeth hon yw helpu gyda chostau dyfais neu ryngrwyd.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £300

Diben y fwrsariaeth hon yw cefnogi graddedigion sy’n profi caledi ariannol o ran y costau sy’n gysylltiedig â mynychu eu seremoni raddio.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £100

Diben y fwrsariaeth hon yw helpu gyda chostau cysylltiedig â gweithgaredd lleoliadau gorfodol.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £250

Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo unrhyw fyfyrwyr israddedig amser llawn o’r DU sy'n cymryd rhan mewn semester dramor yn un o'n prifysgolion partner.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £250

Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwerth y Dyfarniad: Hyd at £900
