Gwybodaeth am y Fwrsariaeth
Ynglŷn â’r Fwrsariaeth |
Diben y fwrsariaeth hon yw cynorthwyo pob myfyriwr sydd wedi neu sydd wrthi’n cael eu hasesu ar gyfer anabledd gydag unrhyw gostau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u hanabledd i hwyluso eu hastudiaethau. |
Cymwys/Meini Prawf |
Mae’r myfyriwr wedi cael ei nodi fel un sydd angen asesiad diagnostig gan Wasanaethau Myfyrwyr, neu mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Ni ellir dyfarnu’r gronfa hon i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth DSA. |
Sut i wneud cais |
Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. |
Gwybodaeth Ychwanegol |
Bydd angen i fyfyrwyr ddarparu copi o’r llythyr hawl Cyllid Myfyrwyr. Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw adeg. |
Gwerth y Dyfarniad |
Hyd at £700 |