Skip page header and navigation

Bwrsariaeth Dyfarniad Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Gwybodaeth am y Fwrsariaeth

Ynglŷn â’r Fwrsariaeth Mae’r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â modylau drwy gyfrwng y Gymraeg. 
Cymwys/Meini Prawf Dyfernir i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â’u holl astudiaethau neu ran ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog.£50 fesul 10 credyd wedi’i gwblhau’n llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. (Rhaid i’r modiwlau fod o leiaf 50% yn ddwyieithog a bod â chod C). 
Sut i wneud cais Dim ond trwy’r HWB y gellir gwneud ceisiadau am fwrsariaeth. 
Gwybodaeth Ychwanegol

Sylwch na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon ond gallant wneud cais am y gwahaniaeth rhwng y ddwy ddyfarniad os ydynt yn astudio dros 100 credyd mewn blwyddyn academaidd. 

Mae’r fwrsariaeth fel arfer yn cael ei dyfarnu ym mis Gorffennaf yn dilyn byrddau arholi terfynol y flwyddyn academaidd. 

Gwerth y Dyfarniad Hyd at £900 (neu hyd at £1200 i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd dwy flynedd gyflym)