Skip page header and navigation

Sicrhau eich Dyfodol

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i greu cymuned o staff a myfyrwyr sy’n cefnogi cynaliadwyedd trwy gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws holl feysydd y brifysgol i gydweithredu ac addysgu unigolion am y ffyrdd y gallwn ddylanwadu’n effeithiol ar y gymdeithas sydd ohoni a chenedlaethau i ddod.

Effaith Werdd

Datganodd Y Drindod Dewi Sant argyfwng hinsawdd yn 2019 ac rydym yn gweithio’n galed i ddiogelu eich planed er mwyn i chi allu cael y dyfodol gorau posibl. Am ymholiadau cyffredinol ynghylch cynaliadwyedd anfonwch e-bost.

View of a Swansea beach

Yr hyn rydym wedi’i wneud:

  • Buddsoddi dros £1M mewn prosiectau Solar ffotofoltäig er mwyn i ni allu cynhyrchu ein hynni ein hunain
  • Plannu 200 o goed i ddathlu 200 mlynedd o’r Drindod Dewi Sant
  • Cyflawni statws campws cyfeillgar i ddraenogod
  • Gwahardd plastig untro o’n mannau gwerthu bwyd ac rydym yn cael gwared ar gwpanau coffi tafladwy yn raddol.
  • Ennill statws Baner Werdd ar gampysau Caerfyrddin a Llambed am gynnal tiroedd hardd ac ecosystemau i bawb eu fwynhau
  • Lleihau ein gwastraff a chynyddu ein cyfraddau ailgylchu
  • Caiff adeiladau newydd eu hadeiladu yn unol â safon ‘Ardderchog’ Sero Net BREEAM
  • Rydym wedi tyfu dolydd blodau gwyllt lle mae natur yn ffynnu
  • Mae gennym ‘Lyfrgell Pethau’ ar y campws ar gyfer y trugareddau hynny y byddwch chi’n eu hanghofio.
Dau yn cerdded llwybr gyda'r haul yn tywynnu drwy'r coed

Beth allwch chi ei wneud:

  • Siopa’n lleol
  • Gwneud dewisiadau teithio ar sail gwybodaeth amgylcheddol.
  • Ailddefnyddio neu ailgylchu
  • Dweud NA i gwpanau coffi tafladwy
  • Gwrthod plastigau untro
  • Bwyta llai o gig
  • Diffodd pŵer – diffodd goleuadau, gliniaduron, ffonau, ac ati…
  • Peidio â defnyddio aerosolau
  • Defnyddio llai o ddŵr
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Mae’r Brifysgol yn dangos ei hymrwymiad i nodau hir dymor sef dod yn sefydliad carbon sero net drwy lofnodi ‘Siarter Teithio Iach Bae Abertawe’. Mae gweithredoedd uchelgeisiol y siarter yn hyrwyddo dulliau cludiant cynaliadwy ac yn grymuso staff i wneud dewisiadau teithio gwyrdd.

The Green Dragon Environmental Standard is awarded to organisations that can demonstrate effective environmental management and that are taking action to understand, monitor and control their impacts on the environment.

It’s suitable for organisations of all sizes, in any industry, and is flexible in design, so you tailor it to your needs.

The Standard, which is structured into five ‘Levels’, allows organisations to gain a third-party certification that provides recognition of their environmental practices and demonstrates their commitments to sustainability, consideration of environmental impacts, compliance with legislation and environmental protection.

The 5 Levels of Green Dragon are:

  • Level 1: Commitment to Environmental Management
  • Level 2: Understanding Environmental Responsibilities
  • Level 3: Managing Environmental Impacts
  • Level 4:  Environmental Management Programme
  • Level 5: Continual Environmental Improvement.

Level 5 Green Dragon is equivalent to, and in fact requires a greater environmental commitment in respect to public reporting and carbon emissions than ISO14001 and EMAS. The Green Dragon Environmental Standard is owned and managed by Groundwork Wales, a UKAS Accredited Inspection Body.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy

Gan weithio gyda’r Pennaeth Gweithredol Ystadau a Chyfleusterau, Kelly Williams a Kate Williams, mae’r Pennaeth Cynaliadwyedd wedi sefydlu llwybr atebolrwydd clir sy’n sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori mewn polisi ac yn galluogi cyfrifoldeb cyfunol i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymunedau a’n planed.

Mae’r Grŵp Llywio Cynaliadwyedd (SSG) yn gyfrifol am gefnogi’r agenda Cynaliadwyedd ar gyfer Grŵp y Brifysgol, ac am fonitro a mesur cynnydd o ran dangosyddion perfformiad i gadarnhau gweithrediad effeithiol ac aliniad ag amcanion a strategaeth sefydliadol. Bydd yn adolygu strategaeth a pholisi pan fo hynny’n briodol) ac yn cymeradwyo neu’n atgyfeirio at yr Uwch Gyfarwyddiaeth yn ôl yr angen, wrth weithio i sicrhau bod gofynion Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn cael eu bodloni. Cadeirydd y grŵp llywio hwn yw’r Dirprwy Is-Ganghellor sy’n allweddol wrth yrru’r newid sefydliadol.

Aelodau’r Grŵp Datblygu Cynaliadwyedd (SDG) yw rheolwyr ar draws pob gwasanaeth academaidd a phroffesiynol yn y Brifysgol yn ogystal â Choleg Sir Gâr. Mae gan y grŵp hwn gynrychiolaeth myfyrwyr ac mae aelodaeth yn agored i bob myfyriwr sy’n dymuno bod yn rhan o hyn. Maent yn gyfrifol am greu cynllun gweithredu cynaliadwyedd adrannol, gan gasglu awgrymiadau a chamau gweithredu i symud yr agenda cynaliadwyedd ymlaen i gyflawni ein hymrwymiadau, gan gynnwys yr uchelgais Sero Net Carbon erbyn 2030.

Mae aelodaeth y grwpiau hyn yn sicrhau goruchwyliaeth a chefnogaeth lefel uwch ar gyfer cyflawni’r agenda hon, yn ogystal â sicrhau ymgysylltiad ac ymgynghori ag uwch swyddogion o ran effaith ehangach Grŵp y Brifysgol.

Galluogi newid ystyrlon

Ar draws y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol mae aelodau staff wedi ysgwyddo rolau yn hyrwyddwyr. Bydd y Pencampwyr Cynaliadwyedd a’r Hyrwyddwyr Gwastraff yn ganolog i alluogi’r newid mewn diwylliant sefydliadol sydd ei angen i wreiddio cynaliadwyedd yn wir.

Ar draws corff y myfyrwyr mae interniaid cynaliadwyedd a hyrwyddwyr myfyrwyr yn cael eu datblygu i gymell eu cyfoedion ar hyd y daith cynaliadwyedd. Mae’r rolau’n amrywio o gefnogi casglu sbwriel i roi trefn ar roddion neu gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael eu cyfethol i grwpiau gweithredu cynaliadwyedd; grwpiau thema sy’n datblygu cynlluniau strategaeth a gweithredu mewn meysydd penodol. megis bwyd neu fioamrywiaeth.   

Aelodaeth Grŵp Llywio Cynaliadwyedd
  • Pennaeth Gweithredol Ystadau a Chyfleusterau Gweithredol, Kelly Williams
  • Cadeirydd, Dirprwy Is-Ganghellor, Dylan Jones
  • Profostiaid Campws
  • Is-Brifathro Dysgwyr a Phartneriaethau, Coleg Sir Gâr
  • Cyfarwyddwr Ystadau, Coleg Sir Gâr
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol
  • Pennaeth Gweithredol Ystadau a Chyfleusterau Gweithredol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr
  • Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol
  • Partner Busnes Cyllid
  • Pennaeth Polisi a Chynllunio
  • Pennaeth Cynaliadwyedd
  • Cyfarwyddwr Profiad Academaidd
  • Prif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr neu enwebai
  • Cynrychiolydd Undeb Llafur
  • Cynrychiolydd Myfyrwyr

Mae Effaith Werdd yn achrediad amgylcheddol byd-eang a ddatblygwyd gan yr Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol (NUS) ac a redir gan Sefydliad y Myfyrwyr ar gyfer Cynaliadwyedd (SOS).

Mae’r rhaglen yn un sydd wedi ennill gwobrau gan y Cenhedloedd Unedig,  gall ystod o sefydliadau gymryd rhan ynddi, o Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion, Ymddiriedolaethau GIG a mwy. Mae dros 60 o Brifysgolion a 70 o Undebau Myfyrwyr yn y DU wedi cymryd rhan!

Nod y Rhaglenni Effaith Werdd yw darparu fframwaith i sefydliadau weithio gydag ef i gofnodi a thyfu eu gweithredoedd cynaliadwy. Hefyd, mae SOS yn darparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n ymgymryd ag Effaith Werdd, i sicrhau eu bod yn cyflawni cymaint o weithredoedd cynaliadwy â phosibl.

I brifysgolion, mae’r rhaglen Effaith Werdd yn chwilio am fyfyrwyr a staff i ymgymryd â gweithredoedd sy’n cael effaith ar gynaliadwyedd; mae hyn yn cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol ond hefyd yn fwy eang llesiant, diwylliant a sut mae’r brifysgol yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ei holl gwricwla a rhaglenni. I Undebau Myfyrwyr, ceisia’r Effaith Werdd gefnogi mentrau cynaliadwyedd myfyrwyr ar draws campysau gan weithio gyda Swyddogion Etholedig eu Hundeb Myfyrwyr i adeiladu cynaliadwyedd wrth wraidd yr Undeb yn strategol ac yn weithredol.

I’r Brifysgol, mae mentrau a gynhelir drwy’r flwyddyn ar gyfer Effaith Werdd yn cael eu llunio i ymgorffori cynaliadwyedd mewn arfer bob dydd. Ymhlith yr enghreifftiau o weithgareddau mae annog staff i argraffu pan fo’n wirioneddol angenrheidiol yn unig ac argraffu ar ddwy ochr y ddalen fel mater o arfer; defnyddio deunyddiau marchnata i atgoffa pobl i ddiffodd goleuadau ac offer trydanol pan fyddant yn segur; lanlwytho nodiadau darlithoedd a llawlyfrau modylau’n electronig i leihau nifer y taflenni a ddosberthir i fyfyrwyr, ac ailgylchu gwastraff bwyd – ac mae un o’n timau wedi sefydlu eu habwydfa eu hunain! I leihau effaith teithio, cyflwynwyd cynllun rhannu ceir gan rai timau ac mae fideo-gynadledda’n dileu’r angen i staff deithio rhwng campysau ar gyfer cyfarfodydd.

Mae Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn yr Achrediad Effaith Werdd bob blwyddyn, a ‘Da Iawn’ oedd yr achrediad diwethaf. Wedi mynd drwy’r broses yn ddiweddar maent yn aros am ganlyniad yr asesiad diweddaraf. Mae’r achrediad yn cydnabod yr holl waith a wnaed gan y Tîm Swyddogion Sabothol, y Tîm Swyddogion Rhan Amser, Interniaid INSPIRE, myfyrwyr a staff.

Mae Interniaid INSPIRE wedi cefnogi’r gwaith o arwain ar ymgyrchoedd megis Wythnos Byddwch Wyrdd, gan gasglu, hyrwyddo a dosbarthu gwaddodion coffi ac adeiladu casglwyr dŵr glaw. Maent wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Cynaliadwyedd a Gwasanaethau Myfyrwyr i gyflawni casgliadau sbwriel ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar draws y myfyrwyr a’r staff yn y Drindod Dewi Sant. Gallwch weld rhagor ar wefan Undeb y Myfyrwyr ynghylch yr ymgyrchoedd a gynhaliwyd i gefnogi gwaith Effaith Werdd.

I ddysgu rhagor am Effaith Werdd a sut y gallwch chi gymryd rhan, edrychwch ar y wefan.

sustainable transport hierarchy_welsh

Anogir staff a myfyrwyr i ddilyn yr hierarchaeth fanwl hon wrth benderfynu a ddylid mynychu cyfarfod neu gynhadledd oddi ar y safle: 

  • A oes angen y cyfarfod hwn? 
  • A ellir trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar yr un diwrnod? 
  • Pe bai teithio am ddim ond 1 cyfarfod, a fyddai galwad Teams yn opsiwn mwy amgylcheddol synhwyrol? 
  • A allaf gerdded, beicio neu fynd ar y bws ar gyfer cyfarfodydd lleol? 
  • A ydw yn gallu cymryd y trên? 
  • A yw’n bosibl rhannu car?”

Cwpanau amldro – CHI sy’n gwneud y gwahaniaeth

Ar gyfartaledd defnyddiodd PCYDDS 135,000 o gwpanau untro bob blwyddyn, sy’n cynhyrchu 1599Kg o wastraff a 34 tunnell o allyriadau CO2 a gaiff eu rhyddhau i’r atmosffer o ganlyniad uniongyrchol i’r gwastraff hwn. 

Mae hyn gyfwerth â 170 bws deulawr yn llawn dop â charbon deuocsid. Ar ein taith i Garbon Sero Net, mae gwasanaethau arlwyo’r Drindod Dewi Sant yn ceisio defnyddio llai o gwpanau coffi untro.    

Er 1 Hydref, rydych chi nawr yn arbed 50c ar bris eich diod dwym pan ddewch chi â’ch cwpan amldro eich hun (â chlawr).  Mae 10% o gwsmeriaid eisoes wedi manteisio ar y disgownt hwn.  

Yn y 2 fis ers i’r cynllun redeg, mae bron 600 ohonoch chi wedi cofio eich cwpan amldro, sydd wedi arbed 6.7kg o garbon sy’n gyfystyr â 45.5 bath yn llawn o garbon.  

Hefyd diolch yn fawr iawn i’r tîm arlwyo am hyrwyddo’r fenter hon ar draws pob un o’n caffis.  

Rhowch y gair ar led, dewch â’ch cwpan eich hun, arbedwch arian ac achub y blaned! 

Pwyntiau Gwefru Newydd ar gyfer Cerbydau Trydan

University Electric Van

Mae teithio yn faes polisi allweddol, yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n cael effaith sylweddol ar newid hinsawdd. Mae hefyd yn enghraifft wych o’r ffordd y mae PCYDDS wedi edrych yn gyfannol ar sut rydym yn lleihau ein hallyriadau carbon, wrth gefnogi cydweithwyr i gymryd eu camau ystyrlon eu hunain i leihau eu hallyriadau nhw.

Y llynedd, lansiodd PCYDDS y cynllun Prydles Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan (cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV)). Caiff hwn ei weithredu gan arbenigwr yn y maes, Knowles Fleet. Trefniant yw aberthu cyflog lle rydych yn cytuno i ildio (aberthu) rhywfaint o’ch cyflog gros (eich cyflog cyn i dreth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NIC) gael eu didynnu) yn gyfnewid am fudd anariannol, fel car, a ddarperir gan eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, na chyfraniadau yswiriant gwladol ar y swm yr ydych yn ei ildio. Trwy gofrestru ar gyfer y cynllun hwn, rydych yn cytuno i aberthu swm o’ch cyflog gros, ar sail fisol, yn gyfnewid am gar ULEV newydd sbon. 

Caiff y car hwn ei brydlesu i chi am gyfnod penodol (naill ai 2 neu 3 blynedd) ac fe fydd terfyn milltiroedd y cytunwyd arno ymlaen llaw, yn yr un modd â phe byddech yn prydlesu cerbyd gan garej lleol. Y fantais ychwanegol yw bod cerbydau o dan y cynllun yn cynnwys yr holl gostau cynnal a chadw, treth ac yswiriant, felly mae’n un taliad misol yn uniongyrchol o’ch cyflog heb unrhyw gostau cerbyd eraill. Mae un ar bymtheg aelod o staff eisoes wedi elwa ar hyn ac yn cael y pleser o yrru eu Cerbyd Trydan newydd sbon.

Mae pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan wedi’u gosod gan PodPoint ar draws rhan fwyaf ein hystâd. Os byddwch yn cofrestru ar ap PodPoint gyda’ch cyfeiriad e-bost staff neu fyfyriwr PCYDDS, codir ffi ar gyfer y trydan ar gyfradd ffafriol (20c fesul kWh ar hyn o bryd), sy’n sylweddol rhatach na’r gyfradd gyhoeddus a mwyafrif y pwyntiau gwefru masnachol. 

Ar ben y cynlluniau hyn, mae llawer o fflyd y Brifysgol bellach yn drydanol, sy’n golygu bod y pwyntiau gwefru presennol yn cael defnydd da. Er mwyn cynyddu capasiti i sicrhau y gellir gwefru cerbydau’r brifysgol, mae PCYDDS wedi gwneud cais llwyddiannus am grant Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru a fydd yn arwain at bwyntiau gwefru ychwanegol yn cael eu gosod yng Nghofrestrfa Caerdydd, IQ Abertawe a Champws Busnes Abertawe, Campws Caerfyrddin a Champws Llambed.

Newyddion Cynaliadwyedd

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd Y Drindod Dewi Sant, felly mae ein staff a’n myfyrwyr yn gweithio’n galed i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymunedau a’n planed. Cymerwch ychydig o amser i gael cip ar rai o’n straeon isod.