Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi addo’i chefnogaeth i Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe sydd â’r nod o annog a chefnogi staff i deithio o gwmpas y campysau mewn ffordd gynaliadwy.

Yr Athro Ian Walsh, Philip McDonnell a Kate Williams yn dal copi A3 wedi’i lofnodi o’r Siarter Teithio Llesol.

Cafwyd digwyddiad ffurfiol i lofnodi’r ddogfen gyda’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd PCYDDS, Philip McDonnell, Cydlynydd Fforwm Amgylcheddol Abertawe, a Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd yn y Brifysgol, yn bresennol yn adeilad Technium 1 y Brifysgol yn SA1 ar 31 Ionawr.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd PCYDDS: “Mae llofnodi’r Siarter Teithio Llesol yn cynrychioli datganiad o fwriad arwyddocaol ar ran PCYDDS. Rydym wedi ymrwymo i’r nod mwy hirdymor o ddod yn brifysgol carbon sero net ac i gyflwyno buddion amser real i’n myfyrwyr a’n cymunedau heddiw. Trwy gymryd camau mesuradwy i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy, rydym yn anelu at leihau ein hôl troed carbon, lleihau llygredd, a rhoi hwb i’r ansawdd aer ar ein campysau ac o’u hamgylch.”

Mae’r Brifysgol yn ymuno ag 13 sefydliad blaenllaw gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Coleg Gŵyr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Cyngor Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Tai Arfordirol a Pobl, wrth gymryd y llw.

Trwy 17 o gamau gweithredu uchelgeisiol, mae’r siarter yn hyrwyddo cerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn.

Mae’r camau’n cynnwys sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr cynaliadwyedd ym mhob sefydliad, datblygu ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u targedu at staff, cynnig a hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith a hyrwyddo gostyngiadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Trwy gydweithio, mae’r sefydliadau’n bwriadu cynyddu cyfran y teithiau cynaliadwy a wneir i weithleoedd ac oddi yno.

Cyflogir mwy na thraean o’r oedolion mewn gwaith gan y sector cyhoeddus yn Abertawe, sef dros 42,000 o bobl, felly gall yr ymrwymiad hwn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr amgylchedd yn ogystal â buddion cysylltiedig i iechyd.

Daw lansiad y siarter hon wrth i’r dystiolaeth o’r brys sydd ei angen i fynd i’r afael â newid hinsawdd ddod yn druenus o amlwg. Cyfeiriwyd at adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ym mis Awst 2021 gan ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel ‘cod coch i ddynoliaeth’, a dywedodd cyd-gadeirydd gweithgor yr IPCC ym mis Chwefror 2022 fod “y dystiolaeth wyddonol yn bendant: mae newid hinsawdd yn fygythiad i les y ddynoliaeth ac iechyd y blaned. Bydd unrhyw oedi pellach mewn cydweithredu byd-eang yn golygu y byddwn yn colli’r ffenestr fach, sy’n cau’n gyflym, i sicrhau dyfodol y gellir byw ynddo.”

Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe yw’r pumed Siarter i lansio yng Nghymru, yn dilyn mentrau tebyg yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Gwent, ac ymhlith busnesau.

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd yn PCYDDS, “mae’r Brifysgol yn ymroddedig i feithrin cymunedau cryf ac iach lle gall ein pobl ffynnu. Mae cerdded neu feicio i’r gwaith yn gwneud lles mawr i’n hiechyd a’n llesiant, ac ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, bydd yn galluogi pob person i wneud un peth bach a fydd yn creu ymchwydd sy’n achosi newid mawr. Rydym yn edrych ymlaen at feithrin partneriaethau sy’n creu gweithredu a fydd yn gwneud dewisiadau cynaliadwy yn fwy hygyrch i’n cymunedau, bydd hyn yn cefnogi’r Brifysgol yn yr ymdrech i gyflawni Carbon Sero Net.”

Dywedodd Kelly Williams, Pennaeth Gweithredol Ystadau a Chyfleusterau Gweithredol, “mae’r Brifysgol yn falch iawn o fod yn rhan o’r agenda hon ar gyfer gweddnewid ac yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda grŵp Teithio Cynaliadwy Bae Abertawe i sicrhau mynediad hawdd at atebion cludiant cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Siarter Teithio Llesol.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau