Skip page header and navigation

Mae Laura James a Christian Felices Y Drindod Dewi Sant wedi’u gwahodd i gyflwyno yn 11eg Cynhadledd Mannau Cynaliadwy SP2023 ym Madrid - llwyfan ar gyfer dosbarthu ymchwil, cynnal gweithdai, clystyru prosiectau’r UE a rhwydweithio rhwng rhanddeiliaid.

Poster o gynhadledd hybrid Mannau Cynaliadwy SP2023 ym Madrid.

Cynhelir SP2023 dros dri diwrnod ar fformat digwyddiad hybrid (digidol ac wyneb i wyneb) Ni ellir bodloni targedau cynaliadwyedd ac amcanion newid hinsawdd heb fynd i’r afael ag adeiladau a’r amgylchedd adeiledig ar raddfa adeilad, ardal a threfol gan gynnwys ein seilwaith trafnidiaeth ac ynni.

Yn enwog am ddangos canlyniadau sy’n dod i’r amlwg trwy Raglen Fframwaith EU Horizon 2020 ac EU Horizon Ewrop trwy gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf, caiff cwmpas Mannau Cynaliadwy ei gipio’n uniongyrchol gan ei enw. Mae’n cynnwys dylunio, adeiladu ac ôl-osod y mannau rydym yn byw a gweithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Rhwng sesiynau siaradwr gwadd agoriadol a chloi, bydd sesiynau technegol paralel a gweithdai a drefnwyd gan y prosiect yn archwilio gwahanol themâu’r gynhadledd a gwahoddwyd cyflwyniadau ar drosglwyddo technoleg, gweithredu ynni adnewyddadwy a diogelwch ynni gyda’r nod o hwyluso gweithredoedd sy’n cynyddu cyfradd adnewyddu a gweithredu ynni adnewyddadwy.

Mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin y Brifysgol yn cynnig detholiad o raglenni sy’n cael eu tanategu gan ymagwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Mae meddwl cynaliadwy wrth wraidd ei rhaglenni er mwyn galluogi I fyfyrwyr herio paradeimau presennol, holi paradeimau newydd a dadlau ynghylch datrysiadau busnes a fydd yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn amgylchedd yn yr unfed ganrif ar hugain sy’n newid yn gyflym.

Yn y gynhadledd, bydd staff y Drindod Dewi Sant Laura James, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen ar gyfer DProf; a Christian Felices, darlithydd a Rheolwr Rhaglen ar gyfer Sgiliau Cyflogadwyedd, a chyfranogwr at Grŵp Datblygu Cynaliadwy Y Drindod Dewi Sant yn rhannu ymchwil sy’n cael ei gynnal yn y brifysgol.

Meddai Laura James: “Nod yr ymchwil y gofynnwyd i mi ei drafod yw taflu peth goleuni cychwynnol ar y broses o drawsnewid i arweinyddiaeth cynaliadwyedd trwy ddarganfod a dadansoddi profiadau arweinwyr cynaliadwyedd dilys.

“Mae cynnal a rhannu canfyddiadau o’r fath yn hanfodol er mwyn cyfrannu’n bositif at y pwnc hwn ac addo i chwildroi safbwyntiau traddodiadol ar arweinyddiaeth.

“Daw’r digwyddiad hwn ag ymchwil o’r radd flaenaf ac arweinwyr busnes o bob cwr o’r byd at ei gilydd, ac mae’n fraint gen i allu cyfrannu at hynny.”

Meddai Christian Felices: “Byddaf yn cyflwyno “Toward Harmonious Business” sy’n croesi nifer o themâu:  Gan gysylltu Lle gyda pholisïau fel Harmoni gyda Natur y Cenhedloedd Unedig trwy archwiliad o wyddorau ac athroniaethau cyfoes.

“Mae’r dull pwnc ymchwil hwn yn unigryw, a’i nod yw ychwanegu at y wybodaeth sydd ar gael, ac agor dialog o’r newydd ynghylch cysyniadau cynaliadwyedd a natur, yn arbennig o fewn meysydd busnes.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau