Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi’i chydnabod â gwobr ‘Dosbarth 1af’ yng Nghynghrair Prifysgolion uchel ei pharch People & Planet 2023.

Graffeg gyda'r testun: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Dosbarth Gwobr 1af, Cynghrair Prifysgolion People and Planet 2023/2024.

Mae’r clod hwn yn tanlinellu ymrwymiad diwyro’r brifysgol i stiwardiaeth amgylcheddol, arferion moesegol, a mentrau cynaliadwyedd. Mae Cynghrair Prifysgolion People & Planet, sy’n enwog fel corff amgylcheddol awdurdodol o holl brifysgolion y DU, yn asesu sefydliadau yn flynyddol ar sail eu perfformiad amgylcheddol a moesegol. Yng nghynghrair 2023, cafodd 151 o brifysgolion y DU eu gwerthuso’n drylwyr ar draws 14 categori, gan ennill rhagoriaethau yn amrywio o ddosbarth 1af i Fethu.

Sicrhaodd Y Drindod Dewi Sant sgôr rhagorol o 100% yn y categori ‘Polisi Amgylcheddol’. Dangosodd y brifysgol safon uchel mewn amrywiol gategorïau eraill, gan ennill sgorau trawiadol o 96% ar gyfer ‘Addysg’, a 90% ar gyfer ‘Ymgysylltu’ ac ‘Archwilio ac EMS’. Yn allweddol hefyd, sicrhaodd y Drindod Dewi Sant y safle cyntaf yng Nghymru a safleoedd clodwiw yn y DU yn y categorïau ‘Gwastraff ac Ailgylchu’ (9fed yn y DU), ‘Ffynonellau Ynni’ (7fed yn y DU), a ‘Lleihau Dŵr’ (2il yn y DU).

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd yr Athro Dylan Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Cynaliadwyedd yn y brifysgol:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i ennill gwobr dosbarth 1af yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet eleni. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’n hymroddiad diwyro i gynaliadwyedd ac arferion moesegol.

“Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn parhau’n ddiysgog yn ein hymrwymiad i hyrwyddo ymdrechion cynaliadwyedd, ac mae’r anrhydedd hwn yn dyst i ymroddiad parhaus y brifysgol i stiwardiaeth amgylcheddol. Mae hyn oll wedi’i wneud yn bosibl oherwydd ymdrechion staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u cefnogaeth.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon