Skip page header and navigation

Cysylltiadau Allanol

Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 

Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol

Mae Swyddfar Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) yn gweithredu cynllun annibynnol ar gyfer cwynion myfyrwyr yn unol â Deddf Addysg Uwch 2004. Mae’n ofynnol i bob sefydliad addysg uwch yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â Rheolaur cynllun, y gellir eu gweld ar wefan yr OIA http://www.oiahe.org.uk/. Maer OIA yn delio â chwynion gan unigolion yn erbyn sefydliadau addysg uwch ac maer gwasanaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr.

Cyn gwneud cwyn ir OIA, rhaid i fyfyrwyr ddilyn prosesau mewnol y Brifysgol ar gyfer cwynion ac apeliadau yn gyntaf. Gall myfyrwyr syn anfodlon ar y canlyniad fod âr hawl i gwyno ir OIA cyhyd â bod eu cwyn yn gymwys o dan ei Reolau.

Bydd rhaid i fyfyrwyr anfon Ffurflen Gais y Cynllun i’r OIA o fewn tri mis ar ôl cwblhau eu llythyr Cwblhau Gweithdrefnau. Gellir cael Ffurflen Gais y Cynllun o’r Uned Sicrhau Ansawdd a gellir hefyd eu llwytho i lawr o wefan yr OIA http://www.oiahe.org.uk/. Dylai myfyrwyr anfon copi ou llythyr Cwblhau Gweithdrefnau ir OIA ynghyd â Ffurflen Gais y Gynllun.