Astudio
Ydych chi’n barod i ddewis eich stori?
Gall deall yr opsiynau sydd ar gael i chi fod yn ddryslyd. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud y dewis iawn i chi, p’un a ydych chi erioed wedi gwybod beth rydych chi am ei astudio neu os ydych chi’n dychwelyd i addysg ac eisiau cymryd pethau’n raddol.
Dewch i ddysgu mwy am astudio yn PCYDDS ac archwilio ein rhestrau cyrsiau i ddod o hyd i’r dull astudio sy’n gweithio i chi. Dysgwch am lwybrau astudio amgen fel rhaglenni sylfaen neu brentisiaethau gradd a chael cyngor gan yr arbenigwyr ar bob cam o’r broses ymgeisio.
Mathau o Gyrsiau
Pynciau
Edrychwch ar ein clystyrau pwnc ac archwiliwch beth a gewch gyda ein meysydd pwnc yn PCYDDS. Rydyn ni wedi trefnu ein cyrsiau’n glystyrau pwnc i’ch helpu i adnabod rhaglenni cysylltiedig a allai hefyd fod o ddiddordeb i chi.
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Mae gradd-brentisiaethau’n ddewis amgen yn lle astudiaeth draddodiadol mewn prifysgol ac yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith ydynt. Byddwch yn cael profiad gwaith yn y byd go iawn ac yn ennill cyflog, gan weithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.