Diwrnodau Agored
Cyflwyniad Diwrnod Agored
Mae ein diwrnodau agored a’n nosweithiau agored yn gyfle perffaith i ddarganfod beth sydd gan ein cyrsiau a’n campysau i’w gynnig i chi. Bydd diwrnod agored yn rhoi blas i chi o astudio gyda ni, a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol a rhai o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd bwysicaf i chi, wrth benderfynu beth a ble i astudio. Cofrestrwch eich manylion heddiw i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau sydd ar ddod.
Digwyddiadau agored ôl-raddedig
Noswaith agored ôl-raddedig
Dyddiad: Dydd Mercher 11 Mawrth
Amser: 5yp - 7yp
Archwiliwch ein hystod o gyrsiau ôl-raddedig, cwrdd ag academyddion, a chael cyngor personol ar y cam nesaf yn eich gyrfa a sut i wneud cais. Dewch i ddarganfod mwy am gyllid, yn cynnwys ein Gostyngiad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig a addysgir o hyd at £2,500 i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr PCYDDS.
Digwyddiadau agored israddedig
Noswaith agored Caerfyrddin
Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Mawrth
Amser: 4yp - 6yp
Nosweithiau agored yw eich cyfle perffaith i archwilio ein cyrsiau a champysau a dod i wybod mwy amdanynt. Maent yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’n tîm addysgu a myfyrwyr presennol i ofyn y cwestiynau sydd fwyaf o bwys i chi.
Noswaith agored Abertawe
Dyddiad: Dydd Iau 19 Mawrth
Amser: 4yp - 6yp
Nosweithiau agored yw eich cyfle perffaith i archwilio ein cyrsiau a champysau a dod i wybod mwy amdanynt. Maent yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’n tîm addysgu a myfyrwyr presennol i ofyn y cwestiynau sydd fwyaf o bwys i chi.