Innoture Ltd
Teitl: Datblygu Dodwr ar gyfer Rhoi Cyffuriau gyda MicroNodwyddau
Maes Ymchwil: Printio a Phrototeipio 3D
Partner: Innoture Ltd
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mae Innoture Ltd yn meddu ar batentau byd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu patsys micronodwyddau ac ef yw’r unig gwmni sydd wedi cynyddu cynhyrchiad patsys micronodwyddau hyblyg - ar gyfer y farchnad estheteg feddygol yn y lle cyntaf. Wrth i’r cwmni archwilio i ddefnyddiau newydd, nododd fwlch mewn arbenigedd ynghylch datblygu dyfais dodi i roi triniaethau sy’n defnyddio micronodwyddau, fel lleddfu poen.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, gwnaeth Innoture weithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Dechnoleg Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ATiC i ddeall yn well sut mae eu dyfeisiau’n rhyngweithio gyda’r croen. Cynhyrchodd y cydweithredu hwn ddata hollbwysig ar sut mae gwahanol ddulliau dodi yn effeithio ar berfformiad dyfeisiau, gan roi Innoture yn un o brif gystadleuwyr y farchnad dodi cyffuriau transdermal fferyllol.
Cyfraniad ATiC:
Gweithiodd ATiC gydag Innoture i drawsnewid cysyniadau cynnar yn ystod o brototeipiau trwy brofi deunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu yn drylwyr i’w gwerthuso gan ddefnyddwyr.
Arbenigedd ATiC:
- Dylunio ac adeiladu offer pwrpasol i gasglu data hanfodol ar ddefnydd corfforol technoleg micronodwydd.
- Darparu mewnwelediadau i sut y gall Innoture gipio a dehongli data perfformiad i optimeiddio dulliau dodi yn y dyfodol.
Effaith:
Galluogodd y bartneriaeth hon i Innoture ymestyn i mewn i farchnadoedd newydd gyda chynnyrch cadarn, wedi’i gefnogi gan ymchwil yn barod at ddefnydd fferyllol.