Academydd o'r Drindod Dewi Sant yn cyflwyno prosiect Digital Islam across Europe yn y Comisiwn Ewropeaidd
Rhoddodd yr Athro Gary R. Bunt, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gyflwyniad ar y prosiect Digital Islam across Europe a’i ymchwil cysylltiedig yn y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel ar 3 Hydref 2025.

Mae’r prosiect tair blynedd, a ariennir gan CHANSE (Cydweithrediad Ewropeaidd y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol), yn archwilio amgylcheddau Islamaidd ar-lein ar draws Sweden, Gwlad Pwyl, Sbaen, Lithwania a’r Deyrnas Unedig. Dan arweiniad yr Athro Frédéric Volpi o Brifysgol Caeredin, mae’r fenter yn dod â chonsortiwm rhyngwladol o brifysgolion ac ymchwilwyr o bob cwr o Ewrop at ei gilydd.
Fel Cyd-Ymchwilydd, mae’r Athro Bunt wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad adnoddau a dadansoddiad archifol digidol, gan gynnwys cynnwys ar gyfer llyfr sydd ar ddod. Cyflwynodd ochr yn ochr â chydweithwyr ar y prosiect yr Athro Sariya Cheruvallil-Contractor (Prifysgol Coventry), Dr Dorota Wójciak (Prifysgol Jagiellonian, Gwlad Pwyl), Dr Berta Güell (Universitat Autònoma de Barcelona, Sbaen) a’r Athro Egdūnas Račius (Prifysgol Vytautas Magnus, Lithwania).
Myfyriodd yr Athro Bunt, a wasanaethodd hefyd fel Prif Ymchwilydd y prosiect Digital British Islam (2022–2025) a ariennwyd gan yr ESRC (2022–2025), ar y digwyddiad:
“Roedd hwn yn gyfle sylweddol i drafod Digital Islam across Europe yn fanwl gyda llunwyr polisi a chynghorwyr yn y Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys syniadau amrywiol o bob rhan o’r tîm tuag at faterion awdurdodau crefyddol ac effaith amgylcheddau Islamaidd ar-lein a deallusrwydd artiffisial. Mae’n cynrychioli elfen bwysig o allgymorth a lledaenu canfyddiadau prosiect CHANSE ac yn nodi cyfeiriadau posibl ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.”
Rhagor o wybodaeth:
🔗 Digital Islam Across Europe: https://blogs.ed.ac.uk/digitalislameurope/
🔗 Virtually Islamic (Yr Athro Gary R. Bunt): https://virtuallyislamic.com

Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076