Skip page header and navigation

O Barcelona i Tokyo, o Fflorida i Beijing, mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dweud bod eu lleoliadau tramor wedi “newid eu bywydau” ac yn “gyfle unwaith mewn oes”. Trwy raglen Symudedd Rhyngwladol PCYDDS, mae myfyrwyr yn darganfod diwylliannau newydd, yn datblygu sgiliau gwerthfawr, ac yn creu atgofion a fydd yn aros gyda nhw ymhell ar ôl graddio.

A group of five people standing outside in the sunshine in Barcelona.

Cefnogir rhaglen PCYDDS gan gyllid Taith (Llywodraeth Cymru) a Turing (Llywodraeth y DU), gan helpu i wneud profiadau rhyngwladol yn hygyrch i bob myfyriwr, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd cyfranogiad ehangach.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Luca Burgess, sy’n astudio  Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, ei interniaeth dramor gyda Chanolfan Cynaliadwyedd Worldwide 2050 yn Barcelona, gan gefnogi datblygiad cwrs VSME Academia i helpu busnesau bach i greu adroddiadau cynaliadwyedd sy’n cyd-fynd â’r Gyfarwyddeb VSME Ewropeaidd. Absolute Internships a drefnodd y rôl, a oedd yn cynnwys ysgrifennu sgriptiau ar gyfer modylau cwrs, hogi ei sgiliau proffesiynol wrth gyfrannu at brosiect sydd ag effaith fyd-eang.

Meddai: “Nid yn unig rydw i wedi tyfu’n broffesiynol, ond hefyd yn bersonol mewn ffyrdd na allwn fod wedi’i dychmygu. Ni allaf argymell y profiad ddigon; mae wedi bod yn gyfle na fyddaf byth yn ei anghofio.”

Treuliodd Dominik Grunski, Seicoleg Gymhwysol, ei haf gydag Agatha Inc. yn Tokyo, gan ennill ei brofiad proffesiynol cyntaf mewn adnoddau dynol. Gan ddefnyddio sgiliau o’i astudiaethau Seicoleg, gweithiodd ar brosiectau i wella ymgysylltiad gweithwyr a hyd yn oed cyd-ddatblygodd fenter i bontio bylchau diwylliannol rhwng canghennau Ffrainc a Japan y cwmni. Absolute Internships a drefnodd yr interniaeth hithau.

Meddai: “Fy mhrofiad proffesiynol cyntaf i oedd hwn, ac roedd e’n heriol ac yn fuddiol. Wrth ddefnyddio fy ngwybodaeth academaidd mewn lleoliad go iawn ces i hyder a chanfyddiad o’r math o yrfa rydw i am ei ddilyn.”

Cafodd Nia Moores, sy’n astudio Digwyddiadau a Rheoli Gwyliau Rhyngwladol, haf bythgofiadwy gan gyflawni ei nod personol o weithio ym mhob parc yn Walt Disney World, gan ennill profiad ymarferol amhrisiadwy mewn digwyddiadau ar raddfa fawr a rheoli gwyliau.

“Fy hoff ran hyd yn hyn yw gallu cwrdd â chymaint o bobl anhygoel o wahanol gefndiroedd. Mae cyllid Taith wedi bod o gymorth mawr i mi gan ei fod wedi fy ngalluogi i gael gwell profiad yn Orlando ac wedi fy ngalluogi i deithio i weld gwahanol ardaloedd o ‘Dalaith yr Heulwen’,” meddai.

Gadawodd teithiau grŵp yr haf hwn effaith barhaol ar Lydia Jenkins, sy’n astudio ar gyfer YMA mewn Dylunio Graffig: Deialogau Cydweithredol <https://www.uwtsd.ac.uk/programme-courses/postgraduate-pgce/art-design-…;, a deithiodd i Brifysgol Unedig Beijing (BUU), Tsieina, a dywedodd: “Y rhan fwyaf gwerthfawr o’r profiad i mi oedd y cyfle i ymgolli’n llawn mewn diwylliant newydd a chreu cysylltiadau gwirioneddol, â phobl leol a chyd-gyfranogwyr… Helpodd y daith hon hefyd i egluro cyfeiriad y dyfodol i mi. Ces i fy ysbrydoli i gofrestru ar gwrs TEFL gyda’r nod o symud yn ôl i Tsieina i ddysgu Saesneg. Mae’r penderfyniad hwnnw ynddo’i hun yn dangos pa mor drawsnewidiol oedd y profiad.”

Mae myfyrwyr eraill wedi adleisio’r teimladau hyn. Meddai’r myfyriwr Peirianneg Beiciau Modur Joshua Todd, a wirfoddolodd yn Fiji gyda Think Pacific: “Os dewch chi, manteisiwch ar y cyfle i’ch trwytho eich hun yn y bywyd lleol – mae pawb mor groesawgar mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth bump o bobl na allwch chi ddod i ginio oherwydd bod eich mam (pentref) wedi paratoi cinio i chi!”

Dyma ddisgrifiad Amy Harris, myfyrwraig RheolaethTeithio a Thwristiaeth Ryngwladol, o daith grŵp i Aspen, Colorado: “Profiad hynod fuddiol, gan roi cyfle i ni roi’r hyn yr oeddem ni wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a’i arddangos mewn cyrchfannau o’r radd flaenaf.”

Fe wnaeth profiad Amy ei helpu i sicrhau interniaeth raddedig 12 mis yn gweithio mewn archebion gwesty yng Ngwesty Sonnenalp hardd yn Vail, Colorado.

Ychwanegodd Caitlin Morgan, sydd hefyd yn astudio Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, ac a deithiodd i Vancouver: “Roedd yn brofiad unwaith mewn oes! Rydw i wedi tyfu cymaint fel person o’r daith hon… Dim ond hyn a hyn y gallwch chi ei wneud ar bapur, ond y pethau ymarferol sy’n bwysig.”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yn PCYDDS: “Ein myfyrwyr sy’n ei dweud hi orau, mae’r cyfleoedd hyn yn drawsnewidiol. Boed wrth weithio yn America,  gwirfoddoli yn Fiji, neu astudio yn Ewrop neu Asia, maen nhw’n dychwelyd gyda sgiliau newydd, safbwyntiau ffres, a’r hyder i lwyddo yn eu gyrfaoedd. Ni ddylai addysg fod yn gyfyngedig i’r ystafell ddosbarth. Mae Symudedd Rhyngwladol yn golygu agor drysau i’r byd.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.pcydds.ac.uk  neu cysylltwch â’r Tîm Symudedd Rhyngwladol yn GoGlobal@pcydds.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon