Skip page header and navigation

Bydd Gareth Evans, Pennaeth Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cynrychioli Tîm Prydain ym Mhencampwriaethau Graean y Byd Bolero UCI 2025 yn Zuid-Limburg, yr Iseldiroedd, ar ddiwedd yr wythnos.

Gareth W Evans, Head of CWIC to compete in Gravel World Championships

Bydd Gareth, sy’n byw yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio ar gampws y Brifysgol yn Abertawe, yn cystadlu yn y categori grŵp oedran 35–39 yn y digwyddiad blaenllaw ar gyfer beicio graean - disgyblaeth sy’n cyfuno cyflymder a strategaeth rasio ffordd gyda sgiliau technegol reidio oddi ar y ffordd. Mae cael ei ddewis i gynrychioli Prydain yn cydnabod nid yn unig ei gyflawniad yn  y gamp ond hefyd mae’n adlewyrchu proffil cynyddol uchel seiclo graean fel un o feysydd mwyaf heriol a deinamig y gamp.

Nid camp fach yw sicrhau lle i gynrychioli Prydain. Dim ond yr 20% uchaf o feicwyr ym mhob grŵp oedran yn rasys swyddogol yng Nghyfres Graean y Byd UCI sy’n gymwys. Trwy gydol y tymor, cynhelir 20–25 o ddigwyddiadau ledled y byd, pob un yn denu meysydd rhyngwladol o feicwyr elitaidd ac amatur i gyd yn cwrso nifer cyfyngedig o leoedd.

Cymhwysodd Gareth mewn dau ddigwyddiad gwahanol y tymor hwn: Y Gralloch yn yr Alban, sy’n cael ei ystyried yn un o’r rasys mwyaf cystadleuol a mawreddog yng Nghyfres y Byd, a Graean Cymru, yr unig ras yng Nghyfres Graean y Byd UCI a gynheir yng Nghymru, sy’n cynnwys y dringfeydd heriol ac adrannau technegol o amgylch Llyn Brenig a Choedwig Clocaenog.

Wrth fyfyrio ar ei gyflawniad, dywedodd Gareth:

“Mae cyrraedd y marc cymhwyso yn y ddau ddigwyddiad yn dangos cysondeb gwirioneddol, gan rasio nid yn unig yn erbyn cystadleuaeth leol ond hefyd yn erbyn y seiclwyr rhyngwladol gorau. 

“Yn 2024, yr enillwyr elitaidd oedd Mathieu van der Poel (Dynion) a Marianne Vos (Menywod) - dau o’r enwau gorau ym myd seiclo. Mae ymuno yn yr un digwyddiad â beicwyr o’r safon honno yn fraint enfawr.”

Nawr yn ei bedwerydd rhifyn, mae Pencampwriaethau Graean y Byd UCI wedi sefydlu eu hunain yn gyflym fel gêm bwysig yn y calendr seiclo byd-eang. Bydd digwyddiad 2025 yn cael ei gynnal ar 11 a 12 Hydref ar dir garw, heriol Zuid-Limburg, rhanbarth o’r Iseldiroedd sy’n adnabyddus am ei ddringfeydd serth a’i adrannau graean technegol. Bydd beicwyr yn brwydro ar draws cymysgedd o darmac, graean caled, traciau coedwig, ac esgyniadau miniog, gyda rasys elitaidd a grŵp oedran yn cael eu trefnu ochr yn ochr mewn fformat cystadleuol ffyrnig.

Dywed Gareth fod ei baratoi’n cyfuno teithiau dygnwch hir, sesiynau dwysedd uchel ysbeidiol, a rhaglen strwythuredig o gryfder a chyflyru. Mae’n rhoi clod i’w rôl broffesiynol yn y Brifysgol am lunio ei ddull systematig o berfformio.

“Yn fy rôl yn CWIC, rwy’n arwain ar arloesi, ymgysylltu a datblygu sgiliau. Rydw i wedi gallu trosglwyddo’r un egwyddorion: adborth sy’n cael ei yrru gan ddata, gwella parhaus, a mesur perfformiad - yn uniongyrchol i’m hyfforddiant. Mae pob bloc o waith yn dod yn rhan o system fwy o brofi, dysgu a mireinio.”

Mae Gareth yn dod â chefndir cryf ym maes datblygu perfformiad rhyngwladol. Rhwng 2015 a 2019 bu’n Arbenigwr WorldSkills UK ar gyfer Saernïaeth; gan hyfforddi a mentora cystadleuwyr Tîm DU ar gyfer cystadlaethau byd-eang WorldSkills.

“Dysgodd y profiad hwnnw werth manwl gywirdeb, meddylfryd a pharatoi i mi dan bwysau,” eglura Gareth. “Y gwersi hynny rydw i nawr yn cario’n uniongyrchol i’m cystadleuaeth fy hun.”

Ochr yn ochr â’i gamp, mae Gareth yn cydbwyso bywyd teuluol prysur a phroffesiynol.

“Mae llawer o’m gyrfa wedi canolbwyntio ar addysgu ac ar helpu pobl a diwydiannau i addasu, gwella, ac i berfformio dan bwysau. Mae’r croesiad hwnnw’n siapio fi fel athletwr hefyd. Rwy’n defnyddio’r un dull — adeiladu systemau, mesur cynnydd, a gyrru arloesedd — yn fy mharatoi a’m perfformiad fy hun.

Yr un mor bwysig, rwyf eisiau ysbrydoli eraill – boed yn fyfyrwyr, cydweithwyr neu gystadleuwyr – i anelu at ragoriaeth ac i wireddu eu potensial. Mae seiclo yn rhoi llwyfan i mi, gan ddangos bod modd cydbwyso gwaith, bywyd a pherfformiad ar lefel uchel gyda phenderfyniad, creadigrwydd a disgyblaeth.”

Ychwanegodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn hynod falch o gyflawniad Gareth ac wrth ein bodd i’w weld yn cynrychioli Tîm Prydain ym Mhencampwriaethau’r Byd. Mae ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’w broffesiwn a’i weithgareddau chwaraeon yn ysbrydoledig. Dymunwn y gorau iddo yn y gystadleuaeth.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon