Skip page header and navigation

Mae ap realiti rhithwir (VR) yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda’r nod o drawsnewid dealltwriaeth o brofiad myfyrwyr niwroamrywiol. 

Students wearing VR headsets in a room at UWTSD's SA1 building

O ganfod eu ffordd o amgylch y campws i ymgysylltu a rheoli profiadau synhwyraidd mewn mannau prysur, mae’r ap yn annog defnyddwyr i ystyried sut y gall bywyd prifysgol deimlo’n wahanol iawn i fyfyrwyr sy’n arddel hunaniaeth niwroamrywiol.

Trwy weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a Gwasanaethau Myfyrwyr, mae’r prosiect yn sicrhau bod profiadau bywyd yn parhau i fod yn ganolog i’r broses ddylunio. Mae myfyrwyr yn cyfrannu eu mewnwelediadau a’u hadborth ar bob cam, gan helpu i lunio senarios dilys a all lywio arfer addysgu, gwella empathi ymhlith cymheiriaid ac annog amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol.

Dywedodd Laura Hutchings, Hyrwyddwr Digidol Addysg a’r Dyniaethau yn PCYDDS:

“Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â rhoi llais i’n myfyrwyr a sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed. Mae’r prosiect digidol hwn yn gyfle i feithrin dealltwriaeth mewn ffordd na all geiriau ar eu pennau eu hunain ei gyflawni yn aml. Trwy gamu i mewn i’r profiad rhithwir hwn, gall staff a myfyrwyr fel ei gilydd gael gwerthfawrogiad dyfnach o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn fyfyriwr niwroamrywiol yn y brifysgol.”

Gentleman with hat looking at Ipad screen in the SA1 building

Mae’r prosiect wedi’i gynllunio mewn cydweithrediad â thîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol (DE&E) PCYDDS, sy’n rhoi o’u harbenigedd mewn technoleg drochol i wireddu’r weledigaeth.

Ychwanegodd Glyn Jenkins, Rheolwr DE&E yn PCYDDS: 

“Gall technoleg hwyluso safbwyntiau a hygyrchedd newydd.Nod Branching Realities yw defnyddio profiadau trochol i gefnogi empathi a chynhwysiant o fewn y brifysgol.Trwy gydweithio â myfyrwyr o Addysg a’r Dyniaethau, mae’r fenter hon yn cael ei hyrwyddo fel prosiect digidol sydd wedi’i ddylanwadu gan fyfyrwyr.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr ap yn cael ei ddefnyddio mewn addysgu, hyfforddiant staff a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Bydd yn offeryn gwerthfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan roi mewnwelediadau ymarferol i staff i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol, tra hefyd yn sbarduno sgyrsiau ehangach am gynhwysiant a llesiant.

Trwy’r cydweithrediad arloesol hwn, mae PCYDDS yn gosod ei hun ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg ddigidol i gryfhau empathi, ymwybyddiaeth a chynhwysiant o fewn addysg uwch.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon