Darlithydd Celf Gain yn PCYDDS, Holly Slingsby, yn cyd-guradu Penwythnos Perfformiadau Abertawe yn Oriel Gelf Glynn Vivian
Bydd darlithydd Celf Gain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Holly Slingsby a’r artist o Abertawe, Vivian Ross-Smith, yn cyd-guradu Penwythnos Perfformiadau Abertawe, dathliad pedwar diwrnod o berfformiadau byw a delweddau symudol yn Oriel Gelf Glynn Vivian y ddinas, sy’n rhedeg rhwng 20 a 23 Tachwedd 2025.
Bydd y rhaglen benwythnos ddeinamig hon, a ddatblygwyd mewn ymateb i Linder: Danger Came Smiling, arddangosfa deithiol fawr o Oriel Hayward yn Llundain, yn cynnwys gweithiau byw gan SGÔR, John Walter, Vivian Ross-Smith + Esyllt Angharad Lewis, a Holly Slingsby ei hun.
Bydd detholiad wedi’i guradu o weithiau delweddau symudol perfformiadol hefyd yn cael eu dangos drwy gydol y penwythnos, gan gynnwys cyfraniadau gan artistiaid gwadd a chyfranogwyr galwad agored fel Adele Vye, Aled Simons, Alex Hetherington, Bhebhe & Davies, Jenny Baines, Jessa Mockridge, Rebecca Moss, Sophie Lindsey, Quilla Constance, a Zia Torta.
Mae Penwythnos Perfformiadau Abertawe yn ymestyn y themâu a archwilir yn arddangosfa Linder, sef treuliant, bywyd domestig, perfformiadwyedd ar sail rhywedd, cyfryngau torfol, cyrff, ffigurau archdeipaidd a phleser, ac mae’n gwahodd cynulleidfaoedd i’w profi drwy arferion perfformio newydd, arbrofol.
Bydd testun beirniadol sy’n myfyrio ar y rhaglen yn cael ei ysgrifennu gan y curadur a’r awdur Kit Edwards, gan ehangu cyrhaeddiad y prosiect ymhellach.
Meddai’r artist-guradur Holly Slingsby, sydd hefyd yn ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS: “Mae’r rhaglen hon yn cynnig llwyfan i artistiaid lleol a chenedlaethol sy’n gweithio gydag elfen fyw. Gyda chefnogaeth amhrisiadwy gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym wedi comisiynu gweithiau newydd sy’n buddsoddi mewn artistiaid ac yn eu galluogi i ymateb yn greadigol i holl waith dylanwadol Linder.”
Meddai’r artist-guradur Vivian Ross-Smith: “Rydym wedi ein hysbrydoli gan hanes cyfoethog ac etifeddiaeth celf berfformiadol yn Abertawe ac eisiau adeiladu ar hyn i wneud celf o ansawdd uchel yn hygyrch i gynulleidfaoedd yma. Bydd hyn yn cyfoethogi arlwy diwylliannol y ddinas, yn tynnu sylw at Abertawe fel cyrchfan ar gyfer celf berfformiadol uchelgeisiol ac arbrofol, ac yn dod â themâu arddangosfa Linder yn fyw.”
Meddai Katy Freer, o Oriel Gelf Glynn Vivian: “Mae Penwythnos Perfformiadau Abertawe yn ddathliad o gelf fyw feiddgar sy’n gwthio ffiniau a pherfformiadau i gamera sy’n taro tant ag arfer estynedig Linder. Mae hefyd yn wych gweithio gyda Holly Slingsby a Vivian Ross-Smith, sydd wedi curadu rhaglen mor gyffrous ac uchelgeisiol.”
Cefnogir y digwyddiad hwn gan gyllid Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Perfformiadau Byw
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
5.30 - 8pm, John Walter
5.30 - 8pm, SGÔR
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025
1 - 4pm, Holly Slingsby
2 - 3pm, Vivian Ross-Smith + Esyllt Angharad Lewis
Sioe Fideo
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025, 5.30 - 8pm
Dydd Gwener 21 - Dydd Sul 23 Tachwedd, 10.00am - 4.30pm
Artistiaid Fideo: Adele Vye, Aled Simons, Alex Hetherington, Bhebhe & Davies, Jenny Baines, Jessa Mockridge, Rebecca Moss, Sophie Lindsey, Quilla Constance and Zia Torta.
Instagram: @swanseaperformance
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071