Dewiswyd PCYDDS i Gynnal Cystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills UK
Mae campws Glannau Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’i gyhoeddi fel un o’r lleoliadau mawreddog ar gyfer cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU, gan atgyfnerthu ei rôl fel sefydliad blaenllaw ym maes datblygu sgiliau ac addysg.

Mae WorldSkills UK yn brif gystadleuaeth sy’n dod â phrentisiaid a dysgwyr mwyaf dawnus y genedl ynghyd, gan ganiatáu iddynt arddangos eu harbenigedd mewn dros 40 o feysydd sgiliau. Mae’r rhain yn amrywio o weithgynhyrchu ychwanegion, adeiladu digidol, cyfrifeg, a chyfrifiadura cwmwl i osodiadau trydanol, iechyd a gofal cymdeithasol, ac ynni adnewyddadwy. Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i dynnu sylw at y gorau o dalent y DU a gosod meincnodau sy’n arwain y diwydiant ar gyfer rhagoriaeth alwedigaethol.
Am y tro cyntaf, bydd WorldSkills UK yn ffrydio detholiad o gystadlaethau yn fyw trwy gydol y rowndiau terfynol, gan ganiatáu i’r rhai na allant fynychu’n bersonol ymgysylltu â’r digwyddiad. Bydd y fenter hon yn rhoi cyfle unigryw i brentisiaid, dysgwyr ac addysgwyr gael cipolwg ar ragoriaeth sgiliau, disgwyliadau diwydiant, a datblygiad gyrfa. Bydd y ffrwd fyw hefyd yn cynnwys trafodaethau arbenigol ar sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu uwch, digidol ac adeiladu, sy’n feysydd blaenoriaeth ar gyfer twf economaidd.
Dywedodd Lee Pratt, Rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn PCYDDS: “Mae cael ein dewis fel gwesteiwr ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn dyst i ymrwymiad ein prifysgol i ragoriaeth mewn datblygu sgiliau. Mae nid yn unig yn arddangos ein cyfleusterau o’r radd flaenaf ac addysg sy’n arwain y diwydiant ond hefyd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent i gyflawni eu llawn botensial ar lwyfan cenedlaethol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr WorldSkills UK, Ben Blackledge: “Mae cofrestru prentisiaid a dysgwyr ar gyfer Cystadlaethau WorldSkills UK yn gyfle cyffrous i arddangos eu potensial ac ysbrydoli rhagoriaeth. Mae ein cystadlaethau’n seiliedig ar safonau byd-eang ac yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu sgiliau cystadleuol rhyngwladol sy’n ysgogi buddsoddiad, yn creu swyddi ac yn hybu twf economaidd.”
Bydd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2025 ar draws nifer o leoliadau yn Ne Cymru, gan gynnwys:
• Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Abertawe)
• Coleg Pen-y-bont ar Ogwr (Campws Pencoed)
• Coleg Caerdydd a’r Fro (Campws Canol y Ddinas)
• Coleg Gwent (Campws Casnewydd)
• Prifysgol De Cymru (Caerdydd)
Mae’n bosibl y bydd cystadleuwyr rhagorol o’r digwyddiad eleni yn cael eu dewis i ymuno â rhaglen hyfforddi a datblygu WorldSkills UK, gyda’r potensial i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Aichi 2028 yn Japan. Mae’r llwyfan rhyngwladol mawreddog hwn yn cynnig cyfle i gystadleuwyr fireinio eu sgiliau yn erbyn goreuon y byd a chael profiad amhrisiadwy yn eu priod feysydd.
Mae mynediad ar gyfer Cystadlaethau WorldSkills UK ar agor rhwng 3 a 28 Mawrth 2025. Gall prentisiaid a dysgwyr gofrestru nawr a chael mynediad i adnoddau am ddim i’w helpu i baratoi ar gyfer y cystadlaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i WorldSkills UK.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071