Gofod Trochi yn galluogi archwilio senarios chwaraeon go iawn
Mae myfyrwyr ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol wedi bod yn cael budd o ddefnyddio technegau dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg i ddyfnhau eu dealltwriaeth o addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon.


Mae Dr Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon a Byw’n Iach ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn defnyddio’r Ystafell Drochi ar gampws Caerfyrddin i gefnogi dysgu gan fyfyrwyr mewn modwl Gweithgareddau Cystadleuol.
Mae Dr Blain yn defnyddio’r gofod i archwilio senarios chwaraeon go iawn i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth am ddarparu profiadau chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc. Drwy ddelweddu senarios chwaraeon lefel uchel o’r byd go iawn, gall myfyrwyr ddynodi elfennau allweddol o chwaraeon y gall pobl ifanc eu dysgu ar lefel sy’n briodol yn ddatblygiadol.
Meddai Dr Blain: “Yr allwedd yw i fyfyrwyr ddeall beth yw agweddau craidd yr amrywiaeth o chwaraeon y bydd pobl ifanc yn eu dysgu fel arfer mewn addysg gorfforol yn yr ysgol a chwaraeon cymunedol er mwyn iddynt hwythau wedyn allu dyfeisio gweithgareddau sy’n briodol yn ddatblygiadol sy’n cefnogi dysgu mewn modd hwyliog y gall pawb ei fwynhau. Yn y modwl hwn rydym yn canolbwyntio ar yr hyn a elwir yn ddull tactegol o addysgu chwaraeon.”
Gosodwyd yr Ystafelloedd Trochi yn 2023 ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol, ac maent yn darparu ffyrdd effeithiol i lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Maent yn darparu cynnwys ac amgylcheddau artiffisial a grëwyd yn ddigidol sy’n atgynhyrchu senarios bywyd go iawn yn fanwl gywir, yn yr achos hwn digwyddiadau chwaraeon, er mwyn gallu dysgu a pherffeithio sgiliau a thechnegau newydd.
Meddai James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol PCYDDS: “Trwy ein gofodau trochi, rydym yn chwyldroi’r ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu, trwy ddarparu profiad addysgol rhyngweithiol, diddorol, a chofiadwy ar eu cyfer sy’n dod â’r cwricwlwm yn fyw.
“Nid yn unig y mae gweithredu gofodau trochi ym maes addysg yn cyfoethogi ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr, ond mae’n eu galluogi hefyd i brofi a rhyngweithio â’r cwricwlwm mewn ffordd fwy ystyrlon a chofiadwy. Mae’r dull hwn yn darparu ar gyfer dysgu trwy brofiad a dysgu mwy gweithredol, sydd, yn ôl yr ymchwil, yn fwy effeithiol o ran cadw gwybodaeth yn y cof yn hirdymor.
“Mae’r defnydd o dechnoleg drochi fel realiti rhithwir ac estynedig, yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio a dysgu am bynciau a chysyniadau a fyddai fel arall yn anodd neu’n amhosibl eu hatgynhyrchu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Mae’r defnydd y mae cydweithwyr addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon yn ei wneud o’r dechnoleg yn enghraifft wych o beth y mae modd ei gyflawni.”
Yn ogystal â defnyddio’r ystafell drochi yn ei addysgu, mae Dr Dylan Blain wedi bod yn flaenllaw o ran integreiddio technoleg i mewn i addysg gorfforol a chwaraeon. Ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerfaddon ac Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, cyhoeddodd bapur yn ddiweddar ar botensial dulliau cyfunol ag elfennau o gemau ar gyfer addysg gorfforol yn yr ysgol fel modd o ddychmygu dyfodol ar gyfer y pwnc.
Ychwanega Dr Blain: “Gwnaeth gorfod darparu addysg gorfforol o bell yn y cyfnodau clo yn ystod Covid-19 i ni ailystyried sut gallen ni ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd i wella addysg gorfforol ar ôl y pandemig. Mae cyfuno opsiynau darparu o bell o’r fath â dysgu mwy wyneb yn wyneb yn ffordd amlwg, fodd bynnag mae’n bosibl bod gweithredu dulliau o’r fath mewn ffyrdd sy’n cynnwys elfennau o gemau yn gallu darparu profiadau mwy ysgogiadol a deniadol ar gyfer pobl ifanc. At ei gilydd, ein nod yw hyrwyddo profiadau gweithgarwch corfforol cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc ac mae’n bosibl bod archwilio’r defnydd o brofiadau cyfunol ag elfennau o gemau yn un ffordd o wneud hyn.”
Gallwch ddarllen y papur a gyhoeddwyd yn European Physical Education Review gyda mynediad agored a rhad ac am ddim yma - https://journals.sagepub.com/doi/full/10.1177/1356336X221080372
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ym maes Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored ewch i wefan y Brifysgol.
Nodiadau i olygyddion:
Gofodau Trochi: Gan weithio gyda’r partner Clyweledol, IDNS, ac wedi’u hariannu’n rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gynt (CCAUC, Medr bellach), gosodwyd y mannau dysgu newydd cyntaf o’u bath yng Nghymru ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol.
Mae’r Gofodau Trochi yn defnyddio sgriniau LED diweddaraf Samsung ar draws tair wal gan greu profiad i’r defnyddiwr sy’n llwyr ymdrochol gyda realiti rhithwir ac estynedig. Mae’r mannau dysgu yn galluogi i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir trochi, fideos a delweddau 360° a chymwysiadau trwy feddalwedd drochi ein partner Igloo Vision.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335