Graddedigion Coleg Celf Abertawe ar Restr Fer Arddangosfa Graddedigion Creadigol Byd-eang 2025
Mae tri o raddedigion Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’u cynnwys ar restr fer Arddangosfa Graddedigion Creadigol Byd-eang 2025, platfform ar-lein mwyaf y byd sy’n dathlu talent greadigol sy’n dod i’r amlwg.

Wedi’i chyflwyno mewn cydweithrediad â Google Arts & Culture a Monaco Foundry, mae’r arddangosfa yn cydnabod graddedigion creadigol eithriadol o bob rhan o’r byd. Eleni, cafwyd dros 5,000 o geisiadau i’r gystadleuaeth gan fwy na 600 sefydliad ar draws 100+ o wledydd, gan wneud cyrraedd y rhestr fer yn gyflawniad arwyddocaol sy’n adlewyrchu ansawdd eithriadol gwaith y myfyrwyr a chryfder y gymuned greadigol yng Ngholeg Celf Abertawe.
Y myfyrwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
- Awel Mari - BA (Anrh) Darlunio
- Sadie Ford - BA (Hons) Darlunio
- Jessica Isaac - BA (Hons) Dylunio Graffig
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym wrth ein boddau’n gweld ein graddedigion yn cael eu cydnabod ar lwyfan fyd-eang. Mae eu llwyddiant yn yr Arddangosfa Graddedigion Creadigol Byd-eang yn destament i’w talent, ymroddiad, a’r amgylchedd cefnogol, arloesol sy’n cael ei feithrin gan ein cymuned academaidd.”
Mae’r Arddangosfa Graddedigion Creadigol Byd-eang yn cynnig llwyfan ryngwladol i artistiaid a dylunwyr sy’n dod i’r amlwg i gysylltu ag arweinwyr y diwydiant, sefydliadau diwylliannol, a chymheiriaid creadigol. Mae’n amlygu nodweddion creadigol amrywiol, o lansio arferion annibynnol i archwilio mathau newydd o gydweithio ac yn chwarae rhan drawsnewidiol wrth helpu graddedigion i ennill gwelededd a hygrededd mewn diwydiant byd-eang sy’n gynyddol gystadleuol.
Nawr, gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan yn y Bleidlais Gyhoeddus Fyd-eang, sydd ar agor nes dydd Mawrth, 28 Hydref 2025, i helpu i ddathlu a chefnogi’r graddedigion eithriadol hyn. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Gwener, 31 Hydref 2025.
(Gallwch bleidleisio dros un terfynwr y categori ar draws pedwar maes creadigol.)
Ychwanegodd Caroline: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu effaith fyd-eang cymuned greadigol Coleg Celf Abertawe. Rydym yn annog pawb, yn staff, myfyrwyr, cyn-fyfyriwr a chyfeillion i gefnogi ein graddedigion a’u helpu i ennill y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071