Gwaith Tecstilau Myfyriwr o PCYDDS yn Blodeuo yn Oriel Gelf Liberation yn Brighton
Mae Aimee Rayner, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi’i dewis i arddangos ei gwaith yn yr arddangosfa agored Art in Bloom yn Oriel Gelf Liberation yn Brighton.

Yn swatio yng nghanol lonydd hanesyddol Brighton, Oriel Gelf Liberation yw’r lle celf cyntaf yn y DU i gael ei lywio gan drawma, ac mae wedi ymroddi i hyrwyddo’r celfyddydau er iechyd. Mae gwaith Aimee, sy’n un o’r ychydig o weithiau tecstilau yn yr arddangosfa, ar werth ac yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn rhan o gymuned greadigol fywiog dros nifer o loriau sy’n cyfuno mynegiant artistig â chymorth iechyd meddwl.
Mae Aimee yn dod â chyfuniad unigryw o brofiad yn y sector gofal iechyd a’r celfyddydau, gan hyrwyddo buddion creadigrwydd ar gyfer llesiant. Mae’n frwdfrydig iawn ynghylch gwneud celf yn hygyrch, ac mae’n hwyluso gweithdai i blant ac oedolion yn rheolaidd, gan annog hunanfynegiant drwy brosesau artistig ymarferol. Mae’i harfer yn canolbwyntio ar sgrin-brintio, gwaith pwytho, a dylunio patrymau’n ddigidol, gan dynnu’n fawr ar dirweddau naturiol ac adfyfyrio personol.
“Pan welais i’r cyfle hwn, teimlais ar unwaith bod yn rhaid i mi wneud cais i fod yn rhan o gymuned artistiaid Liberation, gan hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol drwy gelfyddyd brydferth, garthatig, iachaol,” meddai Aimee. “Roedd eu hethos yn cyd-fynd yn berffaith â’r ffordd rwy’n creu, felly rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael fy newis.”
Gwahoddodd Art in Bloom gyflwyniadau sy’n archwilio sut mae natur a blodau’n cyfrannu at lesiant meddwl. I Aimee, mae ysbrydoliaeth yn codi o’r byd o’i chwmpas: “Fy lle diogel yw eistedd tu ôl i fy mheiriant gwnïo. Rwy’n mwynhau defnyddio’r peiriant i bwytho gweadau blodeuaidd neu haniaethol yn rhydd i mewn i ddefnydd, o’r hyn rwyf wedi’i brofi drwy gerdded neu redeg wrth yr arfordir. Mae’n ymwneud â throsi’r teimlad heddychlon, llawen hwnnw yn decstilau a phrintiau.”
Mae Oriel Gelf Liberation yn cynnig mwy nag arddangosfeydd – mae’n lloches ar gyfer iachau a chreadigrwydd. Dan arweiniad y sylfaenydd a’r seicotherapydd celf Caroline Pendray, mae’r oriel hefyd yn gartref i weithdai cymunedol, sgyrsiau gan artistiaid, a sesiynau therapi celf preifat, gan atgyfnerthu potensial therapiwtig celf mewn amgylchedd cynhwysol, anghlinigol.
Mae cenhadaeth yr oriel yr un mor uchelgeisiol ag y mae’n drugarog: ailddiffinio’r lle celf yn lle sy’n cefnogi iechyd meddwl, yn meithrin doniau lleol, ac yn adeiladu cymuned. Mae mentrau cyfredol yn cynnwys gwasanaeth seicotherapi wythnosol rhad ac am ddim i bobl ifanc nad ydynt yn gallu mynd i’r ysgol, a datblygiad parhaus arddangosfeydd, gweithdai, a phartneriaethau newydd.
I archwilio’r arddangosfa Art in Bloom ar-lein a dysgu rhagor am ddull arloesol Oriel Gelf Liberation, ewch i: www.liberationartgallery.com/about-us.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071