Gwern Morus Williams yn ennill Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts i’w gefnogi i deithio a dysgu
Mae Gwern Morus Williams, cyn fyfyriwr o Academi Llais a Chelfyddydau Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi ennill Bwrsariaeth arbennig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er cof am y diweddar Dr Llŷr Roberts.

Mae Gwern yn un o bedwar myfyriwr fydd yn elwa o’r fwrsariaeth. Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn noddi taith addysgol sy’n gysylltiedig â’u gradd. Dyma’r ail flwyddyn iddo gael ei gynnig gan y Coleg mewn cydweithrediad gyda theulu Llŷr a Phrifysgol Bangor. Roedd Dr Llŷr Roberts yn un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Gwern wedi defnyddio’r fwrsariaeth er mwyn teithio i Hawaii. Yno bydd yn perfformio yng Ngŵyl Gerddorol Ryngwladol, cyn iddo gychwyn ar ei gwrs mewn Datblygiad Llais a Theatr Gerdd ym Mhrifysgol NYU Steinhardt yn Efrog Newydd. Meddai Gwern:
“Rwy’n hynod falch ac yn ddiolchgar iawn am gael fy newis ar gyfer Bwrsariaeth Dr Llyr Roberts. Mae ennill y wobr hon nid yn unig yn fraint ac yn anrhydedd, ond hefyd wedi bod yn gymorth sylweddol i mi ddatblygu fy sgiliau canu a pherfformio.
“Cefais gyfle unigryw i gymryd rhan yn yr Ŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol yn Hawaii ym mis Gorffennaf 2025, lle perfformiais yn y sioe gerdd ‘A Little Night Music’ gan Stephen Sondheim. Roedd yr ŵyl yn brofiad proffesiynol dwys, gyda thîm o artistiaid Broadway yn gyfrifol am bob agwedd o’r cynhyrchiad – o’r gwisgoedd a’r set i’r hyfforddiant actio a lleisiol. Roedd gweithio ochr yn ochr â pherfformwyr profiadol yn amgylchedd mor gyfoethog yn gyfle eithriadol i ddatblygu fy sgiliau perfformio, fy hyder, a’m dealltwriaeth o’r diwydiant theatr gerddorol.
“Yn ogystal â’r elfen artistig, cefais brofiad diwylliannol gwerthfawr – o archwilio’r ynys a dysgu am draddodiadau lleol, i ganu yn Gymraeg mewn cyngerdd arbennig a derbyn gwersi gan sylfaenydd yr ŵyl. Roedd y cyfle i berfformio yn y ddau berfformiad o’r sioe yn fraint arbennig, ac yn gam pwysig yn fy natblygiad fel artist ifanc. Heb y fwrsariaeth, ni fyddai’r profiad hwn wedi bod yn bosibl, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r buddsoddiad yn fy natblygiad personol ac academaidd.”
Ychwanegodd Ffion Hann- Jones, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg yn y Brifysgol:
“Llongyfarchiadau mawr i Gwern ar dderbyn y fwrsariaeth arbennig hon. Mae’n bleser gweld myfyriwr Cymraeg yn cael cyfleoedd mor anhygoel i berfformio’n rhyngwladol ac i ddatblygu. Rydym yn dymuno’r gorau iddo wrth iddo fentro ar y cam nesaf yn Hawaii ac yn Efrog Newydd.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476