Skip page header and navigation

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ddigwyddiad cyflogadwyedd rhyngweithiol, ysbrydoledig ar 28 Tachwedd, a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i adeiladu eu brand personol a pharatoi ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy. 

A female guest lecturer advising a student with work displayed on a white table.

Cafodd y digwyddiad, o’r enw “Changemakers: Building Your Personal Brand for Sustainable Employment” ei arwain gan Rachael Wheatley, perchennog yr asiantaeth greadigol Waters Creative, a’i fynychu gan fyfyrwyr BA Dylunio Graffig ail flwyddyn o Goleg Celf Abertawe fel rhan o’u modwl Changemakers.

Dechreuodd Rachael y digwyddiad gyda sgwrs ysgogol, gan rannu ei thaith broffesiynol o gyflogaeth i weithio’n llawrydd ac yn y pen draw lansio Waters Creative. Anogodd y myfyrwyr i fod â hyder a ffydd yn eu syniadau, gan nodi:

“Mae popeth yn dechrau gyda syniad, ond mae angen i chi gredu ynoch chi’ch hun – mae ffydd a hyder yn magu llwyddiant .”

Roedd ei chyflwyniad yn cynnig awgrymiadau ymarferol i fyfyrwyr sydd â’r nod o weithio’n llawrydd neu weithio mewn stiwdios creadigol, gan roi’r sgiliau iddynt wneud eu ffordd mewn diwydiant cystadleuol.

Yna symudodd y sesiwn i weithdai creadigol, a gynlluniwyd i wella sgiliau datrys problemau a brandio. 

Derbyniodd y digwyddiad adolygiadau gwych gan fyfyrwyr, a oedd yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymgysylltu â gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant. Dywedodd Svitlana Ulianych, myfyriwr dylunio graffig ail flwyddyn:

“Mae’n wych ein bod yn cael gweithwyr proffesiynol fel Rachael i ymweld â ni yma yn y Drindod Dewi Sant. Dysgais lawer iawn, ac mae Rachael hefyd wedi cytuno i edrych ar fy ngwaith a rhoi adborth a chyngor i mi.”

Dywedodd y darlithydd Ian Simmonds: “Mae’r digwyddiad hwn yn dyst i ymroddiad y Drindod Dewi Sant i ddarparu cyfleoedd yn y byd go iawn i fyfyrwyr gysylltu ag arweinwyr y diwydiant. Drwy feithrin y cysylltiadau hyn, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn graddio â’r cymwyseddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn amgylchedd gwaith sy’n newid yn gyflym .”

Two students with work displayed on a white table, sitting in a lecture room with artwork displayed on the walls.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon