Myfyrwyr PCYDDS yn Cydweithio â’r Brand Eiconig o Brydain, Anglepoise, ar gyfer ei 90ain Pen-blwydd ac yn arddangos eu gwaith yn y London Design Festival
Mae myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cydweithio â’r brand goleuadau eiconig, Anglepoise, yn rhan o ddathliadau ei 90 mlwyddiant. Bydd eu dyluniadau arloesol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa proffil uchel yn ystod y London Design Festival 2025, yn ddiweddarach y mis hwn.

Roedd y cydweithio’n cynnwys myfyrwyr o’r rhaglenni Patrymau Arwyneb a Thecstilau a Chrefftau Dylunio (Gwydr, Cerameg a Gemwaith), a gafodd eu gwahodd i ymateb i friff byw i ail-ddychmygu ffurf, arwyneb, a materoldeb lamp Anglepoise. Gan weithio â thempledi a gyflenwyd gan Anglepoise, bu’r myfyrwyr yn archwilio dehongliadau radical o werthoedd y cwmni, sef cynaliadwyedd, hirhoedledd, a’r gallu i atgyweirio, wrth wthio ffiniau defnydd deunydd a thriniaeth arwyneb.
Fe wnaeth Simon Terry o Anglepoise, sy’n arweinydd yn y diwydiant, ymweld â Choleg Celf Abertawe yn ystod y prosiect a chanmol creadigrwydd y myfyrwyr, gan ddweud ei fod wedi’i syfrdanu gan ansawdd ac arloesedd eu hymatebion.
Roedd y prosiect yn annog y myfyrwyr i weld lampau Anglepoise nid yn unig fel cynhyrchion goleuo ond fel offer ar gyfer gweithredwyr, o awduron a gwneuthurwyr i beirianwyr a chodwyr. Datblygwyd dyluniadau i wella’r profiad o ddefnyddio lamp orchwyl, gan aros yn driw i dreftadaeth swyddogaethol ac esthetig y cwmni.
Meddai Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Patrymau Arwyneb a Thecstilau a Chyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol yn PCYDDS: “Mae ymateb i gyfleoedd, briffiau dylunio heriol a chydweithrediadau arloesol yn rhan o DNA y ddwy raglen hyn – mae hyn yn fwyd a diod i ni yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS. Mae cael cydweithio â brand o Brydain sydd mor eiconig â hwn yn chwyldroadol ar gyfer portffolios y myfyrwyr. Rydym yn falch o gyraeddiadau’r myfyrwyr, y staff darlithio a’r timau technegol sydd wedi ysgogi hyn, mae hi wedi bod yn bleser gwylio’r prosiect yn datblygu.
“Mae’n glir bod safon y canlyniadau a rhychwant yr atebion dylunio a gynhyrchwyd wedi bod yn llawer gwell na disgwyliadau cychwynnol y briff – does dim byd gwell gennym na gweld y geiniog hon yn syrthio gyda’n partneriaid prosiect! Mae’r rhaglenni hyn wir yn rhai arbennig sy’n cynnig profiadau dysgu eithriadol, sy’n wastad yn agored i brosiectau byw cyffrous ac ystyrlon.”
Ychwanegodd Anna Lewis, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Crefftau Dylunio: “O’r foment y clywais fod posibilrwydd o weithio ar friff byw gydag Anglepoise, roeddwn yn frwd dros ben! Mae ein myfyrwyr yn arbenigo mewn ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau, o wydr a cherameg i waith metel ac eco-ddeunyddiau. Mae eu gweld yn ymateb i’r her hon â chymaint o angerdd a phroffesiynoldeb wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r cydweithrediad hwn wedi’u gwthio y tu hwnt i’r hyn sy’n gysurus iddynt ac wedi arwain at ganlyniadau cyffrous ac arloesol.”
Bu’r myfyrwyr yn archwilio deunyddiau’n amrywio o wydr a ffurfir mewn odyn, metelau electro-ffurfiedig, a cherameg porslen i eco-ddeunyddiau megis gwreiddiau glaswellt, moch coed, plastigau wedi’u hailgylchu, a gwastraff o’r traeth hyd yn oed, i gyd yn adlewyrchu themâu cynaliadwyedd ac adrodd straeon.
Mae adfyfyrio’r myfyrwyr yn cynnwys:
Anna Jones (BA Crefftau Dylunio): “Fe wnaeth gweithio gyda cherameg ochr yn ochr ag acrylig a gwlân fy helpu i weld y gall deunyddiau y’u hystyrir yn anghydnaws ffurfio gweadau a siapiau newydd hynod ddiddorol. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn daith gyffrous o arbrofi.”
Claire Tilling (BA Crefftau Dylunio): “Fe wnaeth defnyddio plastigau a gafwyd ar y traeth, copr wedi’i ailgylchu, a gwydr môr fy nghaniatáu i archwilio naratifau effaith dynoliaeth, cof, a pherthyn. Mae fy ngwaith yn ein cysylltu ni ag ysbrydion gwrthrychau a fu’n anghofiedig.”
Sarah Davies (BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau): “Trwy ddylunio, rwy’n plethu dychymyg, natur ac adrodd straeon ynghyd. P’un a ydw i’n darlunio â llaw neu’n gweithio’n ddigidol, rwy’n cael fy nenu at fanylion hudol symbolau nefol, ffurfiau botanegol, a gweadau cyfoethog ffibrau naturiol.
“Ar ôl graddio, rwy’n bwriadu sefydlu fy hun yn ddylunydd patrymau arwyneb llawrydd. Mae cydweithio â brandiau fel Anglepoise wedi rhoi cipolygon amhrisiadwy i mi ar y disgwyliadau o ddylunydd, a sut i addasu fy ngwaith i gyd-fynd â gweledigaeth brand.”
Maja Lane (BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau): “I mi, mae BEYOND yn fy ngwthio i roi cynnig ar bethau newydd i ddatblygu triniaethau arwyneb manwl ar gyfer y gysgodlen. Mae ymfwrw i dechnegau newydd, hyd yn oed y rhai efallai nad ydw i’n eu hoffi i ddechrau, wedi bod yn daith hunan-ddarganfod. Rydw i wedi dysgu edrych y tu hwnt i’m hunan-amheuaeth a thyfu fel dylunydd a pherson creadigol.”
Effaith Barhaol
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae’r cydweithrediad nid yn unig yn dathlu hanes 90 mlynedd Anglepoise o ragoriaeth ddylunio, ond hefyd yn amlygu rôl talentau newydd wrth lunio dyfodol dylunio. Trwy gynnwys myfyrwyr mewn prosiectau o’r byd go iawn, mae PCYDDS yn parhau i feithrin diwylliant o greadigrwydd, arloesi, a chynaliadwyedd.”
Bydd gwaith terfynol y myfyrwyr yn cael ei arddangos yn ystod y London Design Festival 2025, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd rhyngwladol weld sut mae dylunwyr yfory yn ail-ddychmygu un o eiconau dylunio mwyaf oesol Prydain. Roedd myfyrwyr o Brifysgol Portsmouth a Golden Wolf hefyd yn rhan o’r prosiect.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071