Partneriaeth ATiC-TriTech yn cyflawni gwerthusiad cenedlaethol o Becyn Cymorth Anadlol ICST
Mae cydweithredu rhwng Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cwblhau gwerthusiad cenedlaethol o Becyn Cymorth Anadlol ICST – platfform digidol sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl sy’n byw gydag asthma a COPD, ac i helpu i safoni gofal anadlol ar draws Cymru.

Edrychodd y gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Brif Weithredwyr GIG Cymru, ar ba mor dda mae’r pecyn cymorth yn gweithio i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a’r system iechyd ehangach. Darparodd TriTech yr arweinyddiaeth glinigol a dadansoddiad ansoddol a meintiol, tra bod tîm ATiC PCYDDS wedi cynnal profion profiadau defnyddwyr (UX) ac ymchwil ddwyieithog, sy’n canolbwyntio ar bobl, gan sicrhau bod y pecyn cymorth yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau bob dydd.
Rhan allweddol o rôl PCYDDS hefyd oedd cyfraniad ei hacademyddion seicoleg, a ddefnyddiodd fodelau newid ymddygiad sefydledig i archwilio sut mae’r pecyn cymorth yn dylanwadu ar hyder, cymhelliant a gallu ymhlith cleifion sy’n rheoli eu cyflyrau. Trwy gyfuno mewnwelediad clinigol â’r dull ymddygiadol hwn, darparodd y gwerthusiad ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r pecyn cymorth yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ac unigolion mewn cyd-destunau byd go iawn.
Mae’r dull cydweithredol hwn yn dangos sut y gall byrddau iechyd a phrifysgolion weithio gyda’i gilydd i asesu offer digidol sydd eisoes yn cael eu defnyddio cyn eu mabwysiadu yn ehangach.
Dywedodd Dr Fatma Layas, Cymrawd Arloesi ATiC, PCYDDS: “Sicrhaodd y cydweithredu hwn fod y pecyn cymorth nid yn unig yn glinigol gredadwy ond hefyd yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Trwy werthuso apiau a llwyfan clinigwyr Healthhub, a thrwy droi adborth defnyddwyr yn welliannau ystyrlon, fe wnaethom gefnogi datblygu datrysiad sydd wir yn diwallu anghenion cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.”
Ychwanegodd Dr Ceri Phelps, Seicolegydd Iechyd yn PCYDDS: “Mae’n hanfodol ein bod yn cyfleu ochr ddynol gofal iechyd wrth werthuso ymyriadau ac apiau. Trwy archwilio hyder, cymhelliant a gallu, cawsom well dealltwriaeth o sut y gall y pecyn cymorth annog newid ymddygiad cadarnhaol mewn pobl sy’n byw gyda chyflyrau anadlol.”
Meddai’r Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Arloesi yn y TriTech Institute: “Mae’r gwerthusiad hwn yn ein helpu i sicrhau bod pobl ag asthma a COPD yng Nghymru yn cael y gofal gorau posibl, drwy gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda hyfforddiant ac arweiniad cyfredol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a thrwy ddarparu’r offer sydd eu hangen ar unigolion i reoli eu cyflwr yn hyderus.
“Mae hefyd yn ein helpu i nodi lle mae angen gwelliannau, gan sicrhau bod gwasanaethau’n ymateb i brofiadau bywyd go iawn pobl. Yn y pen draw, mae’r gwaith hwn yn cryfhau ein hymrwymiad i ddarparu gofal sydd nid yn unig yn effeithiol, ond hefyd yn canolbwyntio ar y person.”
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru y Brifysgol: “Mae’r gwerthusiad hwn yn dangos sut y gall prifysgolion a byrddau iechyd weithio law yn llaw i brofi a gwella dyfeisiau arloesol newydd. Trwy gyfuno arbenigedd clinigol, dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, a mewnwelediad seicolegol, mae PCYDDS a TriTech wedi cynhyrchu argymhellion a fydd yn helpu i sicrhau bod y Pecyn Cymorth Anadlol yn effeithiol ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071