Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal y gwaith o ddangos ceisiadau ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru ar gampws Caerfyrddin.  Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae’r ŵyl yn arddangos y gorau mewn cyfryngau arloesol o bob cwr o’r byd, gan gynnwys podlediadau, cynyrchiadau trochol a rhyngweithiol, ffilmiau byrion, a chreu ffilmiau gan ddefnyddio dronau. 

a group of girls

Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn o’r rhaglen BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm yr ŵyl fel rhan o’u modwl Arfer Proffesiynol.  Mae eu cyfraniadau’n cynnwys creu cynnwys animeiddio a fideo i gefnogi’r digwyddiad wyneb yn wyneb a thrwy Sparq, llwyfan ar-lein yr ŵyl.  Mae’r cydweithrediad hwn, sydd wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr adeiladu portffolio proffesiynol gan gael cipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd gyflogaeth yn y diwydiant cyfryngau. 

Yn ogystal, mae’r modwl yn cynnwys profiadau diwydiant ymarferol megis diwrnod ar leoliad gyda chwmni teledu lleol Tinopolis a thaith y tu ôl i’r llenni yn theatr y Ffwrnes yn Llanelli, lle mae myfyrwyr yn archwilio llifoedd gwaith cynhyrchu cyfryngau digidol mewn amgylchiadau proffesiynol. 

Tynnodd Dr Brett Aggersberg, Rheolwr y Rhaglen sylw at werth y fenter: 

“Dyma enghraifft arall o ymroddiad tîm y rhaglen a’r brifysgol wrth greu profiadau sy’n seiliedig ar y diwydiant i’n myfyrwyr.  Ein bwriad yw y bydd myfyrwyr sy’n graddio yn cael ystod o gysylltiadau a phrofiadau yn y diwydiant a fydd yn eu gosod ar wahân i raddedigion eraill.  Mae eu portffolio o waith, dealltwriaeth o’r diwydiant, ac ymwybyddiaeth o lwybrau cyflogadwyedd amrywiol yn gwneud hwn yn gwrs unigryw. 

Bydd llawer o fyfyrwyr ar y modwl hwn eisoes wedi ennill profiad ffrydio stiwdio a digwyddiadau byw drwy Ganolfan S4C Yr Egin fel rhan o’u rhaglen astudio, gyda’r prosiect hwn yn adeiladu ymhellach ar y rhai sy’n datblygu sgiliau.”

Bydd y Dangosiadau Nadoligaidd rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar gampws Caerfyrddin ar 26 Tachwedd, a byddant hefyd ar gael ar-lein drwy Sparq rhwng 26 a 30 Tachwedd. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i:                                                                                    

Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru 

Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin 

FilmFreeway – Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru 

a group of people in the green room suite

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon