PCYDDS yn cynnal Cynhadledd Ryngwladol yn Archwilio Rhwydweithiau Ewrasiaidd Hynafol
Yn ddiweddar, croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw i’w champws yn Llambed ar gyfer y gynhadledd Going beyond Empires: Oasis Polities, Imperial Frontiers and Trade across Ancient Eurasia in Antiquity.
Daeth y digwyddiad deuddydd â dros ddau ddwsin o ymchwilwyr ynghyd o’r Unol Daleithiau, Norwy, y Deyrnas Unedig, a thir mawr Ewrop i archwilio safbwyntiau newydd ar gysylltedd, cyfnewid a rhyngweithio ar draws y byd Ewrasiaidd hynafol.
Roedd y papurau’n eang eu cwmpas gan amrywio o drafodaethau ar dirweddau ymylol yn Asia Fewnol, a gyflwynwyd gan Annie Chan (Prifysgol Ludwig Maximilian ym Munich), i ddadansoddiadau o’r Blemmyes sy’n byw yn yr anialwch fel cyfryngwyr masnach pellter hir, a gyflwynwyd gan Emilia Smagur a Jerzy Oleksiak (Prifysgol Warsaw).
Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Dr Matthew Cobb o PCYDDS a Dr Tomas Larsen Høisæter (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Gorllewin Norwy) fel rhan o’r prosiect ymchwil cydweithredol ehangach Like Islands in a Sea of Sand:Understanding the Silk Roads of Late Antiquity as a Layered Network Model, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Norwy.
Uchafbwynt arbennig oedd cyfranogiad cyn-fyfyriwr y Dyniaethau yn PCYDDS, Daniel Bartle (BA Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg; MRes Hanes yr Henfyd), a gyflwynodd bapur dan y teitl Interactions across the Imperial Frontier: The Indus Valley between India and Iran. Gan adfyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Daniel:
“Roedd y gynhadledd Going Beyond Empires yn ddiddorol a threiddgar, gan ddarparu safbwyntiau newydd ac yn canolbwyntio ar ranbarthau nad oeddwn wedi’u hystyried rhyw lawer cyn hynny, ond sydd ers hynny wedi dod yn ganolbwynt ychwanegol i’m hymchwil.Roedd hefyd yn dda gweld y campws yn cynnal digwyddiadau o’r fath eto, ac rwy’n gobeithio mynychu rhagor yn y dyfodol.”
Manteisiodd myfyrwyr presennol hefyd ar y cyfle i ymgysylltu â’r gynhadledd, gan gynnwys Isabelle Waine (MA Hanes yr Henfyd), a deithiodd o Ogledd Cymru i fynychu. Dywedodd Isabelle:
“Roeddwn i’n ffodus i allu mynychu diwrnod o’r gynhadledd hon a ddenodd gynulleidfa niferus yn Llyfrgell y Sylfaenwyr ar gampws hyfryd Llambed, ddechrau mis Hydref.”
Wrth fyfyrio ar lwyddiant y gynhadledd, dywedodd Dr Matthew Cobb, Uwch Ddarlithydd Hanes yr Henfyd yn PCYDDS:
“Roedd Going Beyond Empires yn gyfle gwych i ddod â chydweithwyr o bob cwr o’r byd at ei gilydd i rannu eu hymchwil diweddaraf ar rwydweithiau hynafol Ewrasiaidd. Roedd y trafodaethau’n fywiog, yn ysgogi’r meddwl, ac yn wirioneddol ryngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth a’r cydgysylltiad rhwng cymdeithasau hynafol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant, o’n siaradwyr a’n myfyrwyr gwadd i’r porthorion, timau arlwyo a gwasanaethau proffesiynol a gefnogodd ni drwy gydol y gynhadledd.
Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i Ruth Gooding o Gasgliadau Arbennig Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen am baratoi arddangosfa wych o ddeunyddiau prin a gyfoethogodd y profiad i’n gwesteion, ac i Gymdeithas Llambed am eu cyfraniad hael i groesawu ein cyfranogwyr rhyngwladol. Dangosodd y gynhadledd y gorau o’r hyn y gall Llambed ei gynnig - croeso cynnes, rhagoriaeth academaidd, ac ymgysylltiad dwfn â’r gorffennol.”
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076