PCYDDS yw Prifysgol DU y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Addysgu
Mae’r Times a’r Sunday Times wedi graddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brif sefydliad y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu yn ei 2026 Good University Guide.
Enwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Addysgu 2026 gan The Times and Sunday Times Good University Guide, a gyhoeddwyd ar 19 Medi.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod PCYDDS fel prif sefydliad y DU ar gyfer ansawdd addysgu, gan adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gyflwyno profiad myfyriwr rhagorol, dulliau addysgu arloesol, a chanlyniadau graddedigion cryf.
Mae’r wobr yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol o foddhad myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu, a chymorth academaidd yn ogystal â llwyddiant y Brifysgol wrth feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol sy’n grymuso myfyrwyr o bob cefndir i gyflawni eu potensial.
Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor PCYDDS:
“Rydym wrth ein boddau i gael ein henwi’n Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Addysgu. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymroddiad, arloesedd ac angerdd ein staff, sydd wedi’u hymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn PCYDDS yn cael eu cefnogi i lwyddo.
“Mae ein ffocws erioed wedi bod ar ddarparu addysgu rhagorol a phrofiad addysgol trawsnewidiol, ac mae’r wobr hon yn dyst i gryfder y perwyl hwn.”
Mae’r Good University Guide yn nodi dull personol PCYDDS at ddysgu, y gymuned glos, a’r partneriaethau cryf gyda diwydiant a chyflogwyr, sy’n rhoi sgiliau gwerthfawr a chyfleoedd i fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon hefyd yn adeiladu ar gyfres o gyflawniadau PCYDDS yn ddiweddar, gan gynnwys safle 1af yng Nghymru ac 2il yn y DU yn nadansoddiad The Times a’r Sunday Times o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS).
Ychwanegodd yr Athro Evans:
“Nid yw’r wobr hon ar gyfer ein Prifysgol yn unig. Mae ar gyfer ein myfyrwyr, ein graddedigion a’n cymunedau ar draws Cymru a’r tu hwnt. Mae’n eiliad o falchder i deulu cyfan PCYDDS.”
Darllenwch y Good University Guide 2026 llawn.
Dysgwch ragor am PCYDDS a’n hystod eang o opsiynau astudio ac Archebu eich Lle ar un o’n Diwrnodau Agored!
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076