Prentisiaeth yn darparu llwybr delfrydol ar gyfer darpar swyddog data
Mae gradd-brentis 21 oed ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dangos gwerth llwybrau addysg amgen, gan gyfuno profiad ymarferol ag astudiaeth academaidd i adeiladu gyrfa addawol mewn peirianneg data a meddalwedd.

Yn wreiddiol o Dreforys, mae Kallum Doyle yn gweithio ar draws dwy adran allweddol o’r brifysgol, Data MIS a Derbyniadau fel Prentis Swyddog Data, gan gydbwyso cyfrifoldebau proffesiynol gyda’i astudiaethau. Gyda’i angerdd gydol oes am dechnoleg, gwyddai’n gynnar nad oedd y llwybr traddodiadol o fynd i brifysgol yn gweddu iddo ef. Yn hytrach, chwiliodd am lwybr a fyddai’n cynnig addysg uwch a chyfrifoldeb yn y byd go iawn.
“Rwyf wedi bod â diddordeb mewn cyfrifiaduron cyhyd ag y gallaf gofio,” meddai. “Erbyn i mi fod yn 13 oed, roeddwn eisoes yn potsian â chaledwedd, ac yn 15 oed, dechreuais ddysgu fy iaith raglennu gyntaf. Roedd y brentisiaeth hon yn gyfle perffaith i droi’r angerdd hwnnw yn yrfa.”
Ysgogwyd y penderfyniad i ddilyn prentisiaeth gan awydd i ehangu ei wybodaeth mewn ffordd strwythuredig tra’n ennill cymhwyster cydnabyddedig.
“Roeddwn i eisiau dyfnhau fy nealltwriaeth o’r maes a dysgu cysyniadau nad oeddwn efallai wedi dod ar eu traws trwy hunanastudio. Mae ennill gradd ochr yn ochr â phrofiad go iawn yn y diwydiant yn rhoi’r gorau o ddau fyd i mi,” meddai.
Trwy gydol y cwrs, mae wedi mwynhau gweithio gydag ieithoedd rhaglennu newydd wrth fireinio ei ddealltwriaeth o rai cyfarwydd. Mae hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio pynciau cymhleth a allai fod wedi ymddangos yn dipyn o her heb arweiniad ffurfiol.
“Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar esbonio pam a sut, sy’n helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer datrys problemau a chymhwyso hynny yn y byd go iawn,” meddai.
Dywedodd Kallum mai un o’r heriau mwyaf a wynebodd oedd addasu i ysgrifennu ar lefel addysg uwch a chyfathrebu damcaniaethol. Ac yntau’n dod o gefndir ymarferol, cafodd drafferth i ddechrau gyda’r arddull academaidd sy’n ofynnol ar gyfer aseiniadau. Fodd bynnag, gyda chymorth gan PCYDDS, gan gynnwys modwl penodol ar fformatio ar gyfer addysg uwch ac arweiniad gan ei Swyddog Cyswllt Academaidd, llwyddodd i wella ei ddull.
“Mae’r buddion yn ymestyn y tu hwnt i’r byd academaidd a thwf gyrfa. Yn bersonol, mae’r cwrs wedi rhoi cyfleoedd i mi ffurfio sawl cyfeillgarwch gwerthfawr a chael profiadau newydd,” ychwanegodd.
Mae hefyd yn cydnabod bod y rhaglen wedi ei helpu i ddatblygu nid yn unig sgiliau technegol, ond hefyd rhwydwaith cefnogol o gymheiriaid a mentoriaid.
“Mae’r gefnogaeth yma yn teimlo mor bersonol. Dydw i ddim yn teimlo fel rhyw rif arall. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn ardderchog, ac mae’r modylau’n cwmpasu’r holl feysydd allweddol sydd eu hangen yn y diwydiant.”
Dywedodd Kallum ei fod yn benderfynol o ragori yn ei astudiaethau a’i rôl yn PCYDDS cyn symud i fyd addysgu yn y pen draw.
“Fy nod yn y pen draw yw trosglwyddo fy ngwybodaeth ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ym maes cyfrifiadura,” meddai.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071