Skip page header and navigation

Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ddydd Iau, 23 Ebrill 2026. 

image of Emyr Lewis

Wedi graddio mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt a’r Gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, treuliodd Emyr Lewis dros dri degawd yn gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd, Abertawe a Phontypridd, gan ddatblygu arbenigedd ym maes cyfraith gyfansoddiadol a chyhoeddus Cymru, a meithrin diddordeb penodol yn y gyfraith yn ymwneud â’r Gymraeg.

Rhwng 2001 a 2013 ef oedd aelod y Deyrnas Gyfunol o COMEX, sef Pwyllgor Arbenigwyr annibynnol Cyngor Ewrop sy’n craffu ar sut mae gwladwriaethau yn cadw at eu dyletswyddau dan Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Bu hefyd yn gweithio fel Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan gyfrannu at waith y Ganolfan ym maes cyfraith a chyfansoddiad Cymru.

Yn 2019, penodwyd ef yn Athro’r Gyfraith ac yn Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymddeolodd yn 2024, ac mae bellach yn dal statws Athro Emeritws.

Mae wedi rhoi tystiolaeth i nifer o bwyllgorau Senedd Cymru a Senedd Llundain yn ogystal ag ymgyrchu o blaid cryfhau sefyllfa’r Gymraeg mewn deddfwriaeth.

Mae hefyd yn fardd. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1994 a’i Choron ym 1998. Yn ogystal â chyhoeddi tair cyfrol o gerddi, mae wedi sgwennu a darlithio yn eang ar bynciau cyfreithiol a llenyddol.

Cei ganmol hon fel canmol jwg ar seld

Ond gwna hi’n hanfod – ac fe gei di weld.

 Dyna gwpled clo cyfarwydd y soned ‘Cyngor’ gan T. H. Parry-Williams o 1949, yn mynegi, ond ar yr un pryd yn dychanu, agwedd ochelgar tuag at arddel y Gymraeg fel un o ‘hanfodion’ y genedl.

Bydd Emyr Lewis yn ystyried datblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol yng Nghymru dros gyfnod datganoli yng ngoleuni’r geiriau hyn, gan ddadlau bod modd dweud bellach fod y Gymraeg yn hanfod Cymru. 

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Rydym yn falch iawn o gael croesawu’r Athro Emyr Lewis, sy’n ffigwr blaenllaw fel cyfreithiwr, bardd, ysgolhaig ac ymgyrchydd ym mywyd cyhoeddus Cymru, i draddodi Darlith Goffa T. H. Parry-Williams eleni. Edrychwn ymlaen at glywed ei ddadansoddiad a’i fyfyrdodau ar destun sy’n hynod bwysig ac amserol, wrth i ni gamu fel cenedl i ail chwarter yr unfed ganrif ar hugain, ac ystyried sut y mae sicrhau dyfodol ffyniannus i’n hiaith genedlaethol.’

Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom, am 5.00yh ar 23 Ebrill. 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell. Bydd paned am 4.30yh. E-bostiwch  canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.

Croeso cynnes i bawb! 

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon