Tymor Gwefreiddiol WAVDA: Arddangos Egin Dalent
Y gwanwyn hwn, bydd Caerdydd yn arddangos doniau eithriadol myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant trwy gyfres o berfformiadau cyfareddol. O gynyrchiadau theatr gerddorol hudolus i arddangosfeydd dawns fasnachol egnïol, mae’r tymor hwn yn cynnig sedd flaen i gynulleidfaoedd i ddyfodol y celfyddydau perfformio.

Mae’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn addo darparu cymysgedd eclectig o brofiadau theatrig, gan ddechrau gydag addasiad cyffrous o The Rocky Horror Show ar 13 ac 14 Mawrth yn Theatr Stiwdio, Tŷ Haywood. Mae’r clasur cwlt hwn, a berfformir gan israddedigion Theatr Gerddorol a Dawns Fasnachol, yn addo swyno cynulleidfaoedd gyda’i gymeriadau ecsentrig a chyfuniad o egni gothig, ffuglen wyddonol a roc a rôl.
Rhoddir lle blaenllaw hefyd i’r theatr Gymraeg gyda myfyrwyr BA Perfformio yn cyflwyno addasiad Cymraeg o glasur Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream,sef Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan, wedi’i osod yng nghyfnod Rhamantaidd Newydd y 1980au. Bydd yr addasiad hwn, a gynhelir ar 3 a 4 Ebrill yn Theatr Stiwdio, Tŷ Haywood, yn dod â chymysgedd gyfareddol o hud, rhamant a dawns gyfoes yn fyw.
Uchafbwynt arall o’r tymor yw Arddangosiad BA WAVDA ar 22 Mai yn Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r arddangosiad diwydiant arbennig hwn yn dwyn ynghyd y perfformwyr mwyaf addawol sy’n graddio, gan gynnwys arddangosfa bwerus o fonologau, perfformiadau ensemble, a chaneuon cerddorol. Wedi’i lunio i gyflwyno doniau newydd i asiantau castio, cyfarwyddwyr, a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, mae’r arddangosiad hwn yn foment allweddol i fyfyrwyr wrth iddynt gamu i’r byd proffesiynol.
Ar 24 Mai yn Nhŷ Haywood, cynhelir Prosiect Perfformio Lefel 4 a Phrosiect Cydweithredol Lefel 5 y radd Dawns Fasnachol. Bydd yr arddangosfa wefreiddiol yn amlygu symudiadau a choreograffi arloesol gan fyfyrwyr talentog, gan osod y llwyfan ar gyfer Prosiect Perfformio a Phrosiect Cydweithredol Dawns Fasnachol y diwrnod canlynol ar 25 Mai.
Mae’r tymor yn parhau gyda pherfformiad myfyrwyr Perfformio a Theatr Gerddorol o sioe gerdd boblogaidd Mal Pope, Amazing Grace, sydd i’w gynnal yn Theatr y Sherman ar 27 a 28 Mai. Er nad yw’r manylion llawn wedi’u cadarnhau eto, disgwylir i’r cynhyrchiad hwn fod yn uchafbwynt y tymor.
Ar gyfer y rhai sy’n hoffi cerddoriaeth glasurol, bydd cyfres BMus Perfformio Lleisiol o 2 i 14 Mehefin yn rhoi lle amlwg i dalent lleisiol anhygoel, tra bydd Cynhyrchiad Terfynol Prosiect Perfformio a Phrosiect Cydweithredol Dawns Fasnachol ar 13 Mehefin yn Nhŷ Dawns yn dod â’r tymor i ben gydag arddangosfa gyffrous o gelfyddyd dawns.
Gyda rhaglen mor amrywiol o ddigwyddiadau, mae tymor WAVDA yn argoeli bod yn ddathliad o greadigrwydd, angerdd a rhagoriaeth artistig na ddylid ei golli. Mae’r perfformiadau hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau theatr a dawns o ansawdd uchel ond hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer egin artistiaid i arddangos eu sgiliau a gwneud enw iddynt eu hunain yn y diwydiant.
Meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru:
“Penllanw unrhyw radd mewn perfformio o unrhyw fath yw’r cynyrchiadau gradd ac eleni mae gennym amrywiaeth eang dros ben. Mae gallu rhoi profiadau arbennig i’n myfyrywr gyd-weithio gyda ymarferwyr proffesiynol o’r diwydiant i greu darnau arbennig o theatr yn rywbeth i’w drysori. O hud oesol Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan gan Shakespeare i egni cyfareddol The Rocky Horror Show, mae ein hactorion a chantorion ifanc talentog yn barod i gamu i’r llwyfan. Ymunwch â ni i ddathlu eu gwaith caled a’u hangerdd – dewch i gefnogi ein graddedigion!”
I gael rhagor o wybodaeth a manylion archebu tocynnau, ewch i: Tocynnau digwyddiadau y Drindod Dewi Sant o TicketSource.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476