Y Drindod Dewi Sant yn gyntaf yng Nghymru a chydradd drydydd yn y DU am foddhad myfyrwyr
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’i gosod yn gyntaf yng Nghymru ac yn gydradd drydydd yn y DU am foddhad myfyrwyr gan y Times Higher Education.

Yn eu dadansoddiad, gorffennodd y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol St Andrews, enillydd y llynedd, yn gydradd drydydd ar 86.5 y cant, a nhw oedd y sefydliadau a gyrhaeddodd y brig yng Nghymru a’r Alban, yn y drefn honno.” (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024: pa brifysgol berfformiodd orau? (timeshighereducation.com)
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2024, a gyhoeddwyd ddydd Mercher 10 Gorffennaf, wedi’i lunio gan ddefnyddio dros 345,000 o ymatebion gan fyfyrwyr o bob rhan o’r DU.
Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi adfyfyrio mor gadarnhaol ar eu profiad gyda ni drwy Arolwg NSS 2024. O ganlyniad, mae dadansoddiad y Times Higher Education wedi ein gosod ar y brig yng Nghymru ac yn gydradd drydydd yn y DU. Rydym yn falch iawn o’r canlyniadau sy’n mynd at wraidd ein gwerthoedd ac yn adlewyrchu ymroddiad ein holl staff i ddarparu’r profiadau dysgu gorau posibl i’n myfyrwyr .”
Dywedodd Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe: “Rydym yn falch iawn o’r canlyniadau sy’n adlewyrchu’r bartneriaeth rhwng ein myfyrwyr a’r Brifysgol. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr a’n staff wrth greu cymuned academaidd fywiog a chefnogol. Mae ein hymrwymiad ar y cyd i ragoriaeth a lles myfyrwyr wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn falch fel Undeb Myfyrwyr i barhau i weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i wella profiad y myfyrwyr.”
Mae’r NSS yn arolwg blynyddol o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ledled y DU.
Gofynnir i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesurau boddhad myfyrwyr.
Rheolir yr NSS gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), Cyngor Cyllido’r Alban a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071