Yr Athro Chris Hopkins wedi'i ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae’r Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW), academi ysgolheigaidd fwyaf blaenllaw’r genedl.

Mae’r Gymrodoriaeth yn cydnabod cyfraniadau sylweddol yr Athro Hopkins i wyddoniaeth gofal iechyd, arloesi gofal iechyd, ac arweinyddiaeth academaidd yng Nghymru.
Mae’r Athro Hopkins yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae’n Llywydd Etholedig Academi Gwyddor Gofal Iechyd y DU, yn Bennaeth TriTech ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyfarwyddwr Clinigol yn y Ganolfan Technolegau Cynorthwyol ac Arloesi, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae ganddo gymrodoriaethau o’r Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS) a’r Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM). Mae’n Wyddonydd Siartredig a Pheiriannydd Siartredig, ac mae’n chwarae rolau cynghori allweddol fel aelod o bwyllgor cynghori arbenigol MHRA a phanel gwerthuso Technoleg Iechyd Cymru. Yn ogystal, mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr y Cyngor Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Ymchwil ac Arloesi yn IPEM.
Mae ei gyfraniadau i wyddor gofal iechyd wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol, gan gynnwys derbyn Gwobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd, Prif Swyddog Gwyddonol GIG Lloegr 2022.
O fewn ATiC, mae Chris yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil drosiadol a gwerthusiadau byd go iawn o dechnolegau meddygol a llwybrau clinigol trwy gydweithio â Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru a’r DU. Gan weithio gyda thimau amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol o’r GIG, y byd academaidd a’r diwydiant, mae’n hyrwyddo arloesedd, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwyddor gofal iechyd, gan gredu’n gryf bod y gwerthoedd hyn yn hanfodol i gynnydd parhaus y maes.
Wrth longyfarch yr Athro Hopkins ar gael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, dywedodd yr Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae dod yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth a chyfraniad eithriadol yr Athro Hopkins i wyddoniaeth gofal iechyd. Rydym yn falch iawn o elwa o arbenigedd Chris fel rhan o’n tîm ATiC. Fel y Cyfarwyddwr Clinigol, mae ei arbenigedd yn gwella dull unigryw’r tîm, sy’n cyfuno dulliau ymchwil dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac offer mesur ffisiolegol gwrthrychol i ddeall anghenion a pherfformiad pobl wrth ryngweithio â chynhyrchion, gwasanaethau, systemau a lleoedd gofal iechyd corfforol a digidol. Nod y cydweithrediad rhwng y Brifysgol a’r sectorau gofal iechyd yw darparu manteision gwirioneddol a chanlyniadau gwell i gleifion yn ogystal â gyrru twf economaidd”.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a sefydlwyd yn 2010, yn ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob disgyblaeth ysgolheigaidd yng Nghymru. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn arwydd o ragoriaeth, gan gydnabod unigolion sydd wedi dangos cyflawniadau eithriadol yn eu meysydd.
Mynegodd yr Athro Hopkins ei ddiolchgarwch am yr anrhydedd, gan ddweud, “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy ethol i Gymrodoriaeth uchel ei barch sy’n cydnabod ac yn hyrwyddo rhagoriaeth academaidd eithriadol mewn ysgolheictod, ymchwil ac arloesi. Mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn chwarae rhan hanfodol wrth dynnu sylw at effaith sut mae’r gwyddorau a’r celfyddydau, y Dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Edrychaf ymlaen at gefnogi a hyrwyddo gwaith y gymdeithas a rhagoriaeth ym maes Gwyddor Gofal Iechyd ledled y DU”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790