Skip page header and navigation

Mae staff a myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe PCYDDS wedi bod yn cael effaith Nadoligaidd gyda phlant lleol o Ysgol Gynradd Christchurch ac Ysgol Gynradd San Helen. Gan weithio gyda staff a myfyrwyr, gwnaeth y disgyblion adenydd tylwyth teg ar gyfer Gorymdaith y Nadolig, sydd bellach yn cael eu harddangos yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas.

Darnau o ddefnydd lliwgar a goleuadau bychain yn hongian uwchben bedyddfaen carreg.
Ffotograff gan Joe Coleman

Wedi’i osod uwchben y ffont yn yr Eglwys, mae’r gosodiad yn gwneud defnydd o’r golau sy’n llifo i mewn trwy’r ffenestri lliw anhygoel i oleuo gwaith y plant. Yn y nos, mae goleuadau tylwyth teg yn gwneud i’r gosodiad glow. Gellir gweld y gwaith celf creadigol drwy gydol cyfnod y Nadolig.

Cynhaliwyd y gweithdai gan y Brifysgol fel rhan o’i phrosiect ehangach/ehangu mynediad, sydd, trwy gydweithio, yn cynnig ystod o weithgareddau dysgu a chodi dyheadau i blant, pobl ifanc ac oedolion ar draws De Orllewin Cymru i greu llwybrau i addysg uwch. .

Dywedodd Anne-Marie Adkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Christchurch (Yr Eglwys yng Nghymru): “Roeddem wrth ein bodd i gael ein gwahodd i fod yn rhan o’r prosiect hwn a cherdded yn yr orymdaith gyda PCYDDS. Mae wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol o’r dechrau. Roedd y gweithdai wedi’u trefnu’n dda ac yn caniatáu i ni weithio ar y cyd ag Ysgol Gynradd San Helen, a’n teuluoedd a’n cymuned gyffredin yn Sandfields.

“Roedd yr orymdaith yn ddigwyddiad arbennig ac yn llawer o hwyl. Roedd yr adenydd yn edrych yn odidog wedi’u goleuo yn y tywyllwch, a’r plant a’r teuluoedd wedi mwynhau yn fawr. Gwnaeth arddangosfa’r adenydd yn Eglwys y Santes Fair gymaint o argraff arnaf, cyn y gwasanaeth Carolau Dinesig yr wythnos hon. Mae ein plant a theulu Christchurch yn teimlo ymdeimlad gwirioneddol o falchder a pherthyn, i fod wedi cymryd rhan mewn digwyddiad mor wych ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at unrhyw brosiectau yn y dyfodol. Diolch Amanda a’r tîm.”

Dywedodd Amanda Roberts, Uwch Swyddog Cyswllt Addysgol yn PCYDDS: “Mae Gorymdaith y Nadolig yn brosiect hudolus lle gall plant a’u teuluoedd o’r ardal leol dreulio amser gyda’i gilydd yn gweithio’n greadigol ac yn creu atgofion arbennig. Wedi’i gyflwyno drwy fenter Diwrnodau Hwyl Celf a Dylunio a redir gan Goleg Celf Abertawe, PCYDDS ac a ariennir gan Ymestyn yn Ehangach, mae’r prosiect yn galluogi PCYDDS i godi dyheadau a rhannu cyfleoedd i bob oedran astudio Celf a Dylunio mewn Addysg Uwch.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon