Cyn-fyfyrwraig PCYDDS yn arwain y ffordd ym maes arloesi ac entrepreneuriaeth gynaliadwy
Rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau eithriadol y gyn-fyfyrwraig a chyn-aelod o staff, Dr Tyra Oseng-Rees, y mae ei gwaith arloesol ym maes dylunio ac entrepreneuriaeth gynaliadwy yn ennill cydnabyddiaeth ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn gyn-fyfyrwraig driphlyg o’r Brifysgol, cwblhaodd Tyra ei graddau baglor, meistr a doethuriaeth gyda’r Brifysgol cyn mynd ymlaen i gyfrannu fel aelod o staff.

O’r dyddiau cynnar o arbrofi gyda gwydr wedi’i ailgylchu i’w statws cyfredol fel arweinydd meddwl a gydnabyddir yn fyd-eang, mae gyrfa Tyra wedi’i diffinio gan greadigrwydd, arloesedd, ac ymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae ei gwaith yn trawsnewid deunyddiau sydd wedi’u taflu fel poteli, ffenestri ceir, a gwydr adeiladu, yn baneli pensaernïol a gosodiadau sy’n cyfuno celfyddyd â chyfrifoldeb amgylcheddol.
Fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Oseng-Rees Reflection Ltd, mae’n arwain unig gwmni y DU sy’n cynhyrchu paneli pensaernïol wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o wydr wedi’i ailgylchu (100%), menter sydd wedi ennill gwobrau fel Gwobr Surface Design 2025 a Gwobr Prestige Cymru 2023/24.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Tyra wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniadau at gynaliadwyedd ac entrepreneuriaeth ac mae wedi rhannu ei harbenigedd ar nifer o lwyfannau proffil uchel.
Yn dilyn ei henwebiad ar gyfer categori Arwr Net The Small Awards am y busnes gorau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, fe’i gwahoddwyd i 10 Stryd Downing ar gyfer digwyddiad Gwobrau Small Business Britain, a oedd yn dathlu cyfraniad hanfodol busnesau bach i economi’r DU a chymunedau lleol.
Fe’i gwahoddwyd i 10 Stryd Downing ar gyfer digwyddiad Gwobrau Small Business Britain yn dilyn ei henwebiad ar gyfer categori Arwr Net The Small Awards am y busnes gorau am ganolbwyntio ar gynaliadwyedd. Tynnodd y digwyddiad sylw at gyfraniad hanfodol busnesau bach i economi’r DU a chymunedau lleol.
Cyflwynodd hefyd sgwrs TEDx Swansea yn annog cynulleidfaoedd i newid safbwyntiau a chymryd camau ystyrlon tuag at ddyfodol cynaliadwy. Gan dynnu ar y Pum Ffordd o Weithio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, tynnodd sylw at brosiect cydweithredol yn PCYDDS a gynhyrchodd y Ddesg Dderbyn o wydr wedi’i ailgylchu yn Adeilad IQ ar gampws SA1 Glannau Abertawe.

Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Tyra:
“Roedd fy amser fel myfyrwraig yn PCYDDS wedi’i ddiffinio gan y rhyddid i ddysgu ar draws disgyblaethau, ymgysylltu â chelf a dylunio, cynnal profion deunyddiau gwyddonol o fewn peirianneg, ac integreiddio safbwyntiau cymdeithasol ac amgylcheddol. Fe wnaeth y profiad rhyngddisgyblaethol hwnnw lunio’r prosiect a grymuso myfyrwyr i feddwl y tu hwnt i ffiniau disgyblaethol. Gyda chefnogaeth gan Jane Davidson a chydweithwyr ar draws y Brifysgol, daeth yn llwyddiant ar y cyd.
“Yn fwy na nodwedd bensaernïol, fe wnaeth y prosiect gyfoethogi profiad y dysgwyr, meithrin ymchwil traws-gyfadrannol, a dangosodd sut y gellir trawsnewid gwydr wedi’i ailgylchu yn gynnyrch masnachol dichonadwy. Rwyf nawr yn adfyfyrio ar y daith honno trwy sgyrsiau a darlithoedd gwadd, gan helpu eraill i archwilio potensial trawsnewidiol cydweithio traws-sector.”
Yr haf hwn, cafodd y prosiect sylw gan ddarlledwr cenedlaethol Norwy, Norsk rikskringkasting (NRK). Yn wreiddiol o Norwy, roedd Tyra yn falch o gynnwys ei gwaith ar y prosiect yn ogystal â’i chyfraniadau ehangach at ddylunio cynaliadwy ac ailddefnyddio gwydr.
Gan adeiladu ar ei phroffil rhyngwladol, ymunodd Tyra yn ddiweddar ag A-Speakers, asiantaeth fyd-eang sy’n cynrychioli arweinwyr meddwl sy’n ysbrydoli newid ar draws diwydiannau. Trwy’r llwyfan hwn, mae’n cyflwyno anerchiadau sy’n herio meddwl confensiynol ac yn darparu strategaethau ymarferol i gofleidio arloesi cylchol, meithrin creadigrwydd, a gwneud cynaliadwyedd yn sbardun ar gyfer twf a mantais gystadleuol.
Trwy ei hymchwil, entrepreneuriaeth a siarad cyhoeddus, mae Tyra wedi dod yn ffigwr blaenllaw ym maes arloesi, cynaliadwyedd ac arweinyddiaeth. Mae PCYDDS yn falch o’i gweld yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel dylunydd ac arweinydd meddwl, gan ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i feddwl yn wahanol am fusnes, yr amgylchedd a menter greadigol.
Gallwch weld Tyra yn rhannu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn ei sgwrs TEDx Swansea yma: https://www.youtube.com/watch?v=v2a5UbNbOPw
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996