Cynhadledd ryngwladol ar rwydweithiau Ewrasiaidd hynafol i'w chynnal ar Gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PYDC) yn croesawu academyddion o bob cwr o’r byd i’w champws yn Llambed yr hydref hwn ar gyfer gweithdy rhyngwladol yn archwilio deinameg cyfnewid, gwleidyddiaeth a diwylliant ar draws Ewrasia o’r cyfnod hynafol.

Bydd y gynhadledd, o’r enw Going beyond Empires: Oasis polities, Imperial frontiers and trade across Ancient Eurasia in antiquity, yn digwydd rhwng 2–3 Hydref 2025 ac mae’n ganlyniad cydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Gorllewin Norwy (HVL).
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r prosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil Norwy, Like Islands in a Sea of Sand. Understanding the Silk Roads of Late Antiquity as a layered network model, dan arweiniad Dr Tomas Larsen Høisæter (HVL) gyda Dr Matthew Cobb o’r Drindod Dewi Sant yn gyfranogwr allweddol yn y prosiect.
Nod y gweithdy yw symud y tu hwnt i safbwyntiau traddodiadol sy’n canolbwyntio ar ymerodraethau ar y Ffyrdd Sidan trwy gymharu rhanbarthau ac unigolion lleol a chwaraeodd rolau hanfodol mewn rhwydweithiau masnach a chyfnewid diwylliannol pellter hir. Bydd astudiaethau achos yn cynnwys Basn Tarim, Sogdiana, Arabia, a rhanbarthau ffiniol ymerodraethau Rhufeinig a Parthiaidd/Sassanaidd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys darlithoedd allweddol gan ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys Annie Chen (Prifysgol Ludwig Maximilian ym Munich), Eivind Heldaas Seland (Prifysgol Bergen), a Lauren Morris (Prifysgol Charles), yn ogystal â chyflwyniadau gan arbenigwyr mewn archaeoleg, hanes ac astudiaethau diwylliannol. Bydd sesiynau’n ymdrin â themâu yn amrywio o ddeinameg tir ffiniol a throsglwyddo diwylliannol i ficro-hanesion y rhai sydd wedi’u hymylu mewn astudiaethau Ffordd Sidan a Chefnfor India.
Dywedodd Dr Matthew Cobb, Darlithydd Darlithydd mewn Hanes yr Henfyd yn y Drindod Dewi Sant:
“Rydym wrth ein bodd yn cynnal y gynhadledd ryngwladol hon yma yn Llanbedr Pont Steffan, gan ddod ag ysgolheigion ynghyd sy’n ail-lunio ein dealltwriaeth o’r hyn a elwir yn ‘Ffyrdd Sidan’. Mae’r rhaglen yn addo sbarduno trafodaethau ysgogol sy’n mynd y tu hwnt i’r naratifau traddodiadol sy’n canolbwyntio ar yr ymerodraeth ac yn tynnu sylw at y lleisiau a’r actorion amrywiol a gynhaliodd rwydweithiau cyfnewid ar draws Ewrasia. Edrychaf ymlaen at groesawu cydweithwyr a chynadleddwyr i Lanbedr Pont Steffan ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn ddigwyddiad diddorol ac ysbrydoledig. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llambed am roi rhodd mor garedig i gefnogi’r digwyddiad hwn.”
Ychwanegodd Dr Tomas Larsen Høisæter (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Gorllewin Norwy):
“Mae’r gynhadledd hon yn gyfle gwych i rannu mewnwelediadau o’r prosiect SilkRoMo gyda chymuned ehangach o ymchwilwyr. Drwy edrych y tu hwnt i’r ymerodraethau eu hunain a chanolbwyntio ar y gwleidyddiaethau llai, y masnachwyr, a’r cymunedau lleol a luniodd lif nwyddau a syniadau, ein nod yw cael darlun cyfoethocach a mwy manwl o gysylltedd Ewrasiaidd hynafol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y sgyrsiau, y cydweithrediadau, a’r darganfyddiadau a fydd yn digwydd yn Llanbedr Pont Steffan.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: SilkRoMo@hvl.no
Rhaglen lawn: https://www.hvl.no/en/research/project/silkromo/
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076