MBE i Huw Edwards, Ymchwilydd yn y Drindod Dewi Sant
Yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, dyfarnwyd MBE i Huw Edwards, ymchwilydd ar y rhaglen D Prof, am wasanaethau i gerddoriaeth ac elusennau gyda Chôr Meibion Mynwy.
Gan siarad ar ôl i Restr yr Anrhydeddau gael ei chyhoeddi, meddai Huw: “Roedd hi’n dipyn o syndod glywed am yr enwebiad hwn, ond dylai’r anrhydedd gael ei rhannu gan bawb sy’n ymwneud â Chôr Meibion Mynwy.
Ar hyn o bryd mae Huw ar ail flwyddyn y Rhaglen Ddoethurol mewn Arfer Proffesiynol. Mae’i ymchwil yn canolbwyntio ar yr adeg yr oedd yn Aelod Seneddol dros Fynwy ar ran y Blaid Lafur a phasio Deddf Llywodraeth Cymru a sefydlodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Mae’r rhaglen D Prof yn gyfle ardderchog i ddatblygu fy niddordeb yn natblygiad datganoli yng Nghymru,” ychwanegodd.
“Roeddwn i’n ffodus i fod ymhlith yr AS(au) a oedd yn ymwneud â phasio’r ddeddfwriaeth a ddaeth â datganoli democrataidd i Gymru maes o law. Drwy f’ymchwil yn y Drindod Dewi Sant rwyf wedi datblygu diddordeb go iawn yn yr holl ASau o wahanol bleidiau’n mynd yn ôl i’r 1880au a ymgyrchai dros ddatganoli ond na fu fyw i’w weld yn cael ei wireddu.”
Magwyd Huw mewn teulu o dras Cymreig yn Llundain. Ar ôl astudio ym Manceinion a Chaerefrog daeth yn ddarlithydd prifysgol mewn polisi cymdeithasol gan weithio ym Mhrifysgolion Sheffield, South Bank Llundain, Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Brighton. Fe’i etholwyd i’r Senedd yn gyntaf mewn is-etholiad hanesyddol ar gyfer Mynwy yn 1991 gan wasanaethu am naw mlynedd yn AS Llafur dros Fynwy.
Bellach mae’n gweithio gyda phrifysgolion yn cynnal cyrsiau hyfforddi a hyfforddiant un-i-un ynghylch sut gall ymchwilwyr roi ffocws ar bolisi yn eu gwaith a’i hyrwyddo i lunwyr polisi wrth i brifysgolion baratoi am Ref 2029.
Meddai Huw: “Rwyf wedi bod yn ffodus i gael dwy brif yrfa, yn ddarlithydd prifysgol ac yn Aelod Seneddol, y gallaf i bellach ddod â nhw at ei gilydd i gefnogi ymchwilwyr prifysgol ynghylch effaith ac ymgysylltu â pholisi tra fy mod i hefyd yn gwneud f’ymchwil fy hun yn y Drindod Dewi Sant ar hanes seneddol datganoli yng Nghymru.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071