Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Celf Gain Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymweld â Madrid i astudio casgliadau unigryw Amgueddfa Prado, Casgliad Thyssen Bornemisza, a’r Reina Sofia.

Tri deg o fyfyrwyr a staff o Goleg Celf Abertawe yn sefyll y tu allan i’r Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía.

Mae’r casgliadau’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod i gyswllt â gwaith celf sy’n llunio asgwrn cefn ein dealltwriaeth o ddiwylliant gweledol; o gelf Ganoloesol yr holl ffordd i gelf gyfoes yr 21ain ganrif.

Aeth 30 o fyfyrwyr ar y daith yn ogystal ag aelodau o staff; Alex Duncan, Holly Slingsby, yr Athro Sue Williams a Chymrawd Sefydliad Freelands, sef Vivian Ross-Smith.

Meddai Alex Duncan, Darlithydd mewn Celf Gain yn PCYDDS a Chyfarwyddwr Artlacuna, Llundain: “Aethom i ymweld ag un amgueddfa bob dydd, a roddodd y cyfle i fyfyrwyr dreulio amser gyda gwaith eiconig fel Guernica Pablo Picasso, Black paintings enwog Francicso Goya, ochr yn ochr ag arddangosfa dros dro, Maestras, yn y Thyssen, a oedd yn dod â gwaith at ei gilydd gan artistiaid benywaidd a enillodd gydnabyddiaeth yn ystod eu hoes, dim ond i ffeindio eu hunain wedi’u hepgor o’r canon; megis Artemisia Gentileschi, Mary Cassatt a Paula Modersohn-Becker.

“Cafodd hyn ei gyfoethogi gan ymweliad ag oriel fasnachol gyfoes Badr El Jundi, am sgwrs gyda’r Cyfarwyddwr Maria de Pedro a gytunodd yn garedig i siarad gyda’n myfyrwyr am arfer celf broffesiynol a mynd o astudio celf i wneud gyrfa yn y maes hwn.”

Celf Gain PCYDDS: Mae Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn cwmpasu ymagwedd eang at addysgu celf gain, lle mae ymarfer artistig unigol yn tynnu ar, ac yn defnyddio, ystod eang o ddeunyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau.

Ymarfer yn y stiwdio sydd wrth ei graidd ac mae’n cynnwys defnyddio gweithdai a gofodau personol arbenigol lle datblygir cysyniadau trwy beintio, lluniadu, ymarfer cerfluniol, fideo, sain, gosodwaith a pherfformio. 

Mae’r cwrs yn annog pob myfyriwr i ystyried ei safle o fewn cymdeithas, gan ddarparu cyfle i weithio ochr yn ochr ag artistiaid a darlithwyr byd-enwog i archwilio maes arfer celf gain gyfoes sy’n esblygu’n gyson.

Guernica gan Pablo Picasso yn cael ei arddangos yn y Museo Reina Sofía.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon