Skip page header and navigation

Mae gwefan newydd yn dod â chorff o farddoniaeth a briodolir i Myrddin ac sydd wedi cael ei anwybyddu ers tro i’r amlwg, gan ddatgelu ei rôl fel llais proffwydol yn gwneud sylwadau ar olyniaeth y Tuduriaid, helyntion y Rhyfeloedd Cartref, a hyd yn oed bryderon amgylcheddol. 

The end of a poem in the voice of Myrddin Wyllt (‘Merlin the Wild Man’), recorded in Peniarth 26 by the fifteenth-century poet Gutun Owain.

Rhan olaf cerdd yn llais Myrddin Wyllt a gofnodwyd gan y bardd Gutun Owain yn Peniarth 26.

Mae gwefan newydd Prosiect Barddoniaeth Myrddin yn cyflwyno golygiadau ac aralleiriadau o’r farddoniaeth a briodolir i Fyrddin, gan gynnwys cerddi diweddar sy’n taflu goleuni ar ei bwysigrwydd fel llais proffwydol a’r newidiadau yn y llais hwnnw dros y canrifoedd.

Ariennir Prosiect Barddoniaeth Myrddin gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI, ac mae’n brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Phrifysgol Abertawe. Yn y Ganolfan, mae’r Athro Ann Parry Owen a Dr Jenny Day wedi bod yn astudio’r canu diweddar. Dyma gorpws sydd heb gael llawer o sylw o’r blaen, ond yn sgil lansiad diweddar ein gwefan fe fydd ar gael i gynulleidfa eang am y tro cyntaf.

Mae gwaith y prosiect wedi dangos bod barddoniaeth broffwydol yn parhau i gael ei chyfansoddi dan enw Myrddin yn y bymthegfed ganrif, yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, a bod amrywiol bryderon yn cael eu mynegi. Darlunnir Myrddin yn un a ymddiddorai nid yn unig ym mharhad llinach frenhinol y Tuduriaid a chythrwfl y Rhyfeloedd Cartref, ond hefyd yn y caledi a achoswyd gan drethi eithafol, problemau cymdeithasol a dirywiad yr hinsawdd. Mewn un gerdd cwyna am fethu gwinwydd y gwinllannau, / a llygru’r ddaear a’r coedydd cynnar a’r heiniarau [‘cnydau’], ac mewn cerdd arall prydera na fydd neb o’r gwaed ar ôl amser dau Hari, sef Harri VII a Harri VIII.

Mae natur gyfnewidiol, ddeinamig y farddoniaeth yn un o brif ddarganfyddiadau eraill y prosiect. Meddai Jenny Day, ‘Yn aml iawn byddwn ni’n dod o hyd i’r un gerdd mewn sawl fersiwn, ac yn ei gweld yn cael ei hailddehongli a’i haddasu mewn gwahanol gyfnodau. Mae’r ffin rhwng barddoniaeth a rhyddiaith yn gallu bod yn anodd ei diffinio hefyd: weithiau ceir darn o broffwydoliaeth ryddiaith yng nghanol cerdd, ac weithiau ceir llinellau mydryddol yng nghanol testun rhyddiaith!’

Un peth sy’n weddol gyson yw persona Myrddin. Fel arfer, nid y Myrddin Arthuraidd sy’n proffwydo, ond yn hytrach Myrddin yr ‘Hen Ogledd’. Dyma Fyrddin Wyllt, y rhyfelwr o’r ‘Hen Ogledd’ a aeth i fyw yng Nghoed Celyddon ar ôl brwydr Arfderydd ac a gysurwyd gan ymweliadau ei chwaer Gwenddydd.

Mae gwefan Prosiect Barddoniaeth Myrddin ar gael yn barod mewn ffurf Beta, a bydd mwy o gerddi’n cael eu hychwanegu yn y misoedd nesaf. Mae’n adeiladau ar fodel llwyddiannus gwefan gutorglyn.net, a ddatblygwyd yn rhan o brosiect cydweithredol blaenorol rhwng y Ganolfan a Phrifysgol Abertawe, a ariennwyd hefyd gan yr AHRC. Ar gyfer barddoniaeth Myrddin rydym wedi datblygu fframwaith newydd ar gyfer cyflwyno’r amrywiol fersiynau cyfnewidiol, ac rydym wedi ychwanegu cronfeydd data chwiliadwy ar gyfer themâu a symbolau brudiol yn ogystal ag enwau personol ac enwau lleoedd.

Arweiniwyd y prosiect (sy’n dod i ben yn swyddogol ar 28 Chwefror) gan y Prif Ymchwilydd, Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyda thri Chyd-Ymchwilydd yn arwain ar wahanol agweddau ar y gwaith: Dr David Callander o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; yr Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru; a Mr Alexander Roberts o Brifysgol Abertawe. Roedd Dr Jenny Day (y Ganolfan), Dr Llewelyn Hopwood (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd) a Dr Ben Guy (gynt yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, bellach yn y Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, Prifysgol Caer-grawnt) yn ymchwilwyr ar y prosiect. 

Meddai’r Athro Ann Parry Owen, “Mae cydweithio gyda’n partneriaid ymchwil yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi bod yn fraint i ni yn y Ganolfan, gan adeiladu ar ein profiad blaenorol ym maes golygu barddoniaeth Gymraeg ganoloesol. Cynigiodd y cerddi yn enw Myrddin sawl her a phroblem i ni, a braf oedd gallu cydweithio ar y testun i greu golygiad digidol cyffrous ac arloesol, a fydd ar gael i bawb yn gwbl agored”.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, “Hoffwn longyfarch ein cydweithwyr yn y Ganolfan ac ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ar waith ymchwil arbennig sy’n cyflwyno dehongliadau newydd o ganu Myrddin i ni a’u cynnig mewn dulliau digidol, ysgolheigaidd a hygyrch. Edrychwn ymlaen at gydweithio pellach rhwng ein sefydliadau”. 

Meddai Dr David Callander, o Brifysgol Caerdydd, “Mae chwedl Myrddin yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru a Phrydain. Ond mae cymaint mwy eto i’w ddarganfod. Mae gallu darllen a chael mewnwelediad o lenyddiaeth a ysgrifennwyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn rhoi’r cyfle i ni gysylltu’n ddyfnach â’n treftadaeth, yn ogystal â dangos hanes llenyddol cyfoethog y gallwn fod yn falch ohono i’r byd”.

Photo: Alexander Roberts, David Callander, Ben Guy, Llewelyn Hopwood, Jenny Day, Ann Parry Owen, Dylan Foster Evans.
Llun: Alexander Roberts, David Callander, Ben Guy, Llewelyn Hopwood, Jenny Day, Ann Parry Owen, Dylan Foster Evans.

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Eleni bydd y Ganolfan yn ddathlu deugain mlwyddiant ers ei sefydlu gyda chynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 17–19 Medi 2025: Gorwelion: Cynhadledd Ryngwladol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon