Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Bernadette Brady PhD mewn Anthropoleg (2012), MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (2005) ac MA mewn Eifftoleg (2022). Ers 2008, bu’n diwtor yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y DU. Mae ei diddordebau ymchwil mewn ffurfiau amrywiol o seryddiaeth ddiwylliannol a daearyddiaeth gysegredig. Yn arbennig, mae hi wedi cyfarwyddo cyrsiau yn yr Aifft ar dirweddau cysegredig a seryddiaeth grefyddol yr Aifft. Mae ei hymchwil hefyd yn cynnwys tirweddau crefyddol yr abatai Sistersaidd ac eglwysi canoloesol Gogledd Cymru. Yn ddiweddar, fe wnaeth hi gyd-olygu Space, Place and Religious Landscapes: Living Mountains, Llundain, Efrog Newydd, Rhydychen Bloomsbury (2020) gyda Darrelyn Gunzburg. 

Pynciau Arbenigol

  • Seryddiaeth Ddiwylliannol
  • Seryddiaeth ddiwylliannol yr Hen Aifft
  • Cyfnodau’r Sêr
  • Seryddiaeth Ddiwylliannol Eglwysi Canoloesol ac Abatai Sistersaidd
  • Daearyddiaeth Gysegredig

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Ers 2008, mae Bernadette Brady wedi gwasanaethu yn diwtor gyda Chanolfan Sophia, lle mae hi’n addysgu modylau ar Ddaearyddiaeth Gysegredig ac Awyr Cysegredig. Mae hi hefyd wedi darlithio ar Seryddiaeth yr Hen Aifft ar gyfer Ysgolion Haf Bloomsbury, yn yr Aifft ac yn Llundain ill dau. Yn 2023, arweiniodd daith astudio i’r Aifft, gan gyflwyno ar dirweddau cysegredig yr Aifft. Ochr yn ochr â’i haddysgu a’i darlithio, mae Dr Brady wedi cydweithio â Darrelyn Gunzburg a Martin Palithrope ar gynhyrchu ffilm ddogfen ar glochyddion Dyfnaint. Yn rhan o’r prosiect hwn, gwnaeth ymchwil ethnograffig i glochyddion newid galwadau yn Nyfnaint ac, yn 2025, cynhaliodd gyfrifiad o glochyddion ledled y sir, gan gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr ar gyfer Cymdeithas Clochyddion Dyfnaint.

Ers 2018, mae hi hefyd wedi bod yn gyd-gyfarwyddwr y Kemet Klub, sefydliad seiliedig ar ddarlithoedd ar-lein sy’n canolbwyntio’n benodol ar Eifftoleg.

Cymwysterau

  • MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg, 2005
  • PhD mewn Anthropoleg, 2012
  • MA mewn Eifftoleg, 2022

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Gwobr Charles Harvey, gwasanaeth eithriadol i astroleg, 2006

Gwobr Regulus, Theori a dealltwriaeth mewn Astroleg, 2008

Gwobr Golden Jupiter, gan Gymdeithas Astrolegol yr Almaen, 2024

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • The Shape of Fate: From Classical Philosophy to Astrological Practice. Llundain: Gwasg Sophia, Ar ddod 2025.
  • (gol.) The Talking Sky Cyf. 24, Culture and Cosmos, cyf. 1 a 2: Canolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg a Diwylliant, 2023.
  • Gunzburg, D. & Brady, B. (goln.) Space, Place and Religious Landscapes, Living Mountains, Llundain, Efrog Newydd, Rhydychen, Bloomsbury (2020).
  • Cosmos, Chaosmos and Astrology. Llundain: Gwasg Canolfan Sophia (2014).
  • cyd-awdur, 'The orientation of the medieval churches of Gwynedd – a Landscape of Sacred Time' gyda Darrelyn Gunzburg a Fabio Silva. Yn CULTURAL ASTRONOMIES IN MEDIEVAL AND EARLY MODERN EUROPE: Ar ddod Brill,
  • ‘The Afon Cynfael- a River's Part in the Cosmology of the Mabinogi.’ Yn Rivers, Mountains, Sky and Sea - the Materiality of Spirit and Place golygwyd gan Luci Attala, 117-30. Ceredigion, Cymru: Gwasg Canolfan Sophia, 2023.
  • ‘The Milky Way.’ Journal of Skyscape Archaeology 8, rhif 1 (2022): 1-7.
  • 'The Sun's Light at Michaelmas and the Cistercians of Britain and Ireland', Citeaux - Commentarii cistercienses, 1(4), tt. 47-65. (2022). Cyd-ysgrifennwyd â D Gunzburg a F Silva.
  • 'Living with Fate: the Lifestyle of Contemporary Astrologers', JSRNC, 13(1), (2019) tt. 1-14.
  • 'The phenomenology of star phases and their role in considering skyscapes', yn Henty, L. & Brown, D. (goln.) Visualising Skyscapes. Efrog Newydd: Routledge (2018) tt. 98-111.
  • ‘The Dual Alignments of the Solstitial Churches in North Wales’ Journal of Skyscape Archaeology (2017) 3(1), tt. 5-28.
  • 'The Orientation of Cistercian Churches in Wales: A Cultural Astronomy Case Study ', Cîteaux - Commentarii cistercienses, 67 (2016), 275-302. Cyd-ysgrifennwyd â D Gunzburg a F Silva.
  • 'Images in the Heavens: A Cultural Landscape', yn The Imagined Sky golygwyd gan D. Gunzburg (Sheffield: Equinox, 2016), tt. 234-258.
  • 'Galileo's Astrological Philosophy', yn From Masha' Allah to Kepler: Theory and Practice in Medieval and Renaissance Astrology, golygwyd gan Charles Burnett a Dorian Gieseler Greenbaum (Prifysgol Cymru, Llambed: Gwasg Canolfan Sophia, 2015), tt. 77-100
  • 'Star phases: the naked-eye astronomy of the Old Kingdom pyramid text. Yn: Silva, F. & Campion, N. (goln.) Skyscapes: The Role and Importance of the Sky in Archaeology. Rhydychen: Oxbow 2015.
  • 'Star-Paths, Stones and Horizon Astronomy', yn SEAC 2011 Stars and Stones: Voyages in Archaeoastronomy and Cultural Astronomy, golygwyd gan F.Pimenta, et al. (Rhydychen: Archaeopress, BAR International Series, 2015), tt. 58-63.
  • ‘A Niche Degree: a case study of an MA (yn Cultural Astronomy and Astrology)’ DISKUS, Teaching and Learning. Cyf 14, 2013. 55-69. 55-69.
  • 'Images in the Heavens: A Cultural Landscape', Journal for the Study of Religion, Nature and Culture, 7 (2013), 461-484.
  • ‘The Star of Bethlehem and Luke's Shepherds: an exploration of the astrological features of the two nativity stories'. Yn: Šprajc, II. & Pehani, P. (eds.) Ancient cosmologies and modern prophets Ljubljana, Slovene: Slovene Anthropological Society. 2013.
  • ‘A Consideration of Egyptian Ascension Mythology as a Reflection of the Mythopoeic Nature of Star Phases and Its Implication for Belief in the Descent of Divine Beings.’ Yn Current Research in Egyptology Cyfrol Xii, golygwyd gan Heba Abd El-Gawad et al
  • ‘The Horoscope as an “Imago Mundi’’: Rethinking the Nature of the Astrologer's Map.’ Yn Astrologies, Plurality and Diversity, golygwyd gan Nicholas Campion a Liz Greene, 47-62. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed: Gwasg Canolfan Sophia, 2011.
  • ‘Some philosophical roots of determinism in astrology’ yn Jupiter, Astronomy, Mathematics and Anthroposophy Cyf 4 Rhif 1 (2009) 27-40.
  • ‘Chartres Cathedral and the Role of the Sun in the Cathedral’s Christian Platonist Theology.’ Yn Sky and Psyche, golygwyd gan Nicholas Campion a Patrick Curry, 59 – 77. Caeredin, y DU: Floris Books 2006.
  • ‘Four Galilean Horoscopes: A Technical Analysis.’ Culture and Cosmos 7, rhif 1 (2003): 113-43.

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw