Skip page header and navigation

Cefndir

Mae Dr Bronwen Williams wedi gweithio ym maes Addysg Uwch ers 18 blynedd, gan ddechrau fel darlithydd rhan-amser a delir fesul awr a datblygu i’w swydd bresennol yn Gyfarwyddwr Academaidd Ysgol y Gyfraith Abertawe. Yn Gyfarwyddwr Academaidd, mae Bronwen yn gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth Ysgol y Gyfraith Abertawe, sy’n golygu cynllunio cwricwlwm clir, ynghyd â rheoli cyflwyno’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd, gwella profiad y myfyrwyr a defnyddio adnoddau dynol a chorfforol yn effeithiol ac yn effeithlon o ddydd i ddydd. Cynigir rhaglenni IR ac OR yn Ysgol y Gyfraith Abertawe ar draws y Gyfraith, Troseddeg a’r Gwasanaethau Brys, megis plismona a thân ac achub. Mae Bronwen wedi datblygu perthnasoedd a phartneriaethau arwyddocaol â sefydliadau allanol er mwyn llunio cymwysterau arloesol, gan greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a gwella profiad y myfyrwyr, ac mae gan yr holl raglenni ffocws mawr ar gyflogadwyedd.  

Pynciau Arbenigol

  • Addysg Gyfreithiol
  • Cyflogadwyedd mewn Addysg Uwch

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cysylltiadau â sefydliadau addysgol ac arfer proffesiynol yn benodol at ddibenion ymchwil MA, addysg gyfreithiol a’r proffesiwn, gydag ymchwil DProf ar sut y gall sefydliadau Addysg Uwch gynnwys sgiliau cyflogadwyedd mewn darpariaeth academaidd a sut i oroesi yn y farchnad gystadleuol sydd ohoni.

Traethawd ymchwil DProf:
Sut mae’r Brifysgol trwy ei chynllun Myfyrwyr-Wirfoddolwyr yr Heddlu wedi helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd i baratoi myfyrwyr am yrfa yng ngwasanaeth yr heddlu.

Fe wnaeth ymchwil pellach i addysg gyfreithiol yng Nghymru arwain at bapur yn cefnogi’r achos dros brentisiaeth Gyfreithiol Lefel 7 yng Nghymru fel y’i comisiynwyd gan swyddfa Cymru o Gymdeithas y Gyfraith, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025 a’i gyflwyno i’r Cwnsler Cyffredinol.

Ymchwil a gyflawnwyd yn 2017 ar ran Heddlu Dyfed-Powys yn gwerthuso gwaith monitro arwyddion bywyd mewn celloedd cadw’r Heddlu er mwyn lleihau nifer y marwolaethau yn nalfa’r heddlu.

Cymwysterau

  • Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol – PCYDDS 2024
  • MA (PDET). – Prifysgol Fetropolitan Abertawe – 2012
  • TAR (AHO) – Prifysgol Fetropolitan Abertawe – 2009
  • LLB (Anrh) – Prifysgol Caerwysg - 2000

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

2025-2029 Arholwr allanol ar gyfer Prifysgol Swydd Stafford
2025-2029 Arholwr allanol ar gyfer Prifysgol Ulster
2024- presennol Aelod o Fwrdd Cenedlaethol Cymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer Cymru
2021 – presennol. Dirprwy Gadeirydd – Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Moeseg ar gyfer Heddlu De Cymru
2019 – presennol Ynad ac Ynad Gweinyddol ar gyfer Mainc Gorllewin Morgannwg.
2022- presennol Cadeirydd Cymdeithas Ynadon Gorllewin Morgannwg
2022- presennol Aelod o Grŵp Cydweithredu Academaidd Heddlu Cymru Gyfan a Chadeirydd y gweithgor Effaith a Dysgu a Chadeirydd y Grŵp Effaith a Dysgu

Addysgu Academaidd

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
Chwaer Aelod Urdd Sant Ioan

Dolen i Broffil Orcid

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • “Pepper, I., Rogers, C., Turner, J., Louis, N. ac Williams, B. (2024), "Enabling student employability through volunteering: insights from police volunteers studying professional policing degrees in Wales", Higher Education, Skills and Work-Based Learning