Caroline Lewis
Cefndir
Mae Dr Caroline Lewis yn arweinydd addysg uwch profiadol gyda chefndir cadarn mewn addysg athrawon, datblygiad proffesiynol, ac arweinyddiaeth strategol. Ar hyn o bryd, mae hi’n gwasanaethu yn Bennaeth y Ganolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth yn PCYDDS, lle mae’n goruchwylio portffolio eang o raglenni dysgu proffesiynol ac yn cefnogi datblygiad partneriaethau ar draws cyd-destunau domestig a rhyngwladol. Yn ogystal â’i rôl arwain, mae hi’n cyfrannu’n weithredol at ddatblygiad staff yn PCYDDS ac mae ganddi brofiad helaeth o fentora cydweithwyr trwy gynlluniau cydnabyddiaeth broffesiynol amrywiol.
Mae Caroline wedi dal amrywiaeth o swyddi academaidd ac arwain yn PCYDDS. Mae ei gwaith wedi canolbwyntio’n gyson ar wella profiadau myfyrwyr, ysgogi arloesi yn y cwricwlwm, a meithrin cydweithio rhyngddisgyblaethol. Mae hi’n Uwch Gymrawd AU Ymlaen ac wedi cyfrannu’n helaeth at drafodaethau cenedlaethol ar bolisi addysg a hyfforddiant ôl-orfodol i athrawon yng Nghymru.
Pynciau Arbenigol
- Rhyngwladoli mewn addysg uwch
- Arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg
- Datblygiad a dysgu proffesiynol athrawon
- Cynllunio’r cwricwlwm a gwella ansawdd
- Polisi a datblygiad addysg Cymru
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Aelod Gweithredol a chyn-Gadeirydd y Gymdeithas Astudiaethau Addysg Ryngwladol
Cadeirydd is-grŵp Ôl-16 USCET Cymru
Arholwr Allanol ar gyfer sawl prifysgol yn y DU
Adolygydd ar gyfer y cyfnodolyn Education Futures
Mae hi hefyd wedi cyfrannu at brosiectau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar hyfforddiant ôl-orfodol i athrawon a datblygu rhaglenni ar draws y sector, gan gynnwys Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu
Cymwysterau
- EdD, Prifysgol Caerfaddon
- TystOR Arweinyddiaeth Strategol mewn Addysg Uwch, PCYDDS
- TAR (AHO), Athrofa Addysg Uwch Abertawe
- MA Datblygiad Proffesiynol, Addysg a Hyfforddiant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe
- BA (Anrh) Saesneg a Hanes, Prifysgol Abertawe
Ieithoedd a Siaradwyd
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Addysgu Academaidd
Dolen i Broffil Orcid
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- Chapman, S. et al. (2025) “Using currere to consider past and future landscapes of technology use in learning and teaching: a view from the Wales Collaborative for Learning Design (WCLD)”, Wales Journal of Education 27(1), 128–53
- McQueen, R., Pullen, M., Chapman, S., Hann, S., Beauchamp, G., Crick, T., Davies, O., Hughes, C., Lewis, C. & Owen, K. L., (2024) "Co-designing learning spaces with learners: Lessons from a Welsh primary school classroom", Focus on Practice (Wales Journal
- Lewis, C. (2023) "Conceptualising higher education in Wales: Balancing local and global," FORUM, 65(1), 76-86.
- "Developing a resilient nation: Devolution and the Welsh approach to enhancing well-being," pennod yn Mander, S., & Williams-Brown, Z. (2020) Childhood Well-being and Resilience: Influences on Educational Outcomes. Llundain: Routledge.