Caroline Thraves
Cefndir
Mae Caroline yn Gyfarwyddwr Academaidd Celf a Chyfryngau, yn arwain Coleg Celf Abertawe (PCYDDS). Caiff Coleg Celf Abertawe ei sgorio o fewn yr 15 gorau am Addysg Celf a Dylunio yn y DU gan Dabl Cynghrair y Guardian gyda nifer sylweddol o bynciau yn sgorio’n gyntaf yng Nghymru.
Mae Caroline wedi gweithio ym myd Addysg am 25 mlynedd, gan addysgu Ffasiwn a Thecstilau yn y lle cyntaf. Mae’n meddu ar TAR, BA ac MA mewn Addysg Ôl-orfodol ac MSc mewn Rheolaeth. Mae Caroline yn Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch (HEA) ac yn un o Hyfforddwr y Sefydliad Arwain a Rheoli. Yn 2019 dyfarnwyd Menyw y Flwyddyn Cymru i Caroline am ei gwasanaethau i Addysg ac yn yr un flwyddyn cafodd wobr ‘Rising Star’ y Sunday Times am Addysg ac Academia. Yn 2009 cafodd Caroline y fraint o gael ei gwahodd i dderbyniad ym Mhalas Buckingham i gwrdd â’r Frenhines a Dug Caeredin am ei chyfraniad i Ddiwydiant Dillad Prydain.
Pynciau Arbenigol
- Celf a Dylunio
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Catalydd Interreg yr UE – Llywodraeth Cymru (2020)
ACT Interreg yr UE – Llywodraeth Cymru (2015)
KTC Technolegau Tecstilau A4B yr UE – Llywodraeth Cymru (2010)
Datblygiad Hyfforddiant K.E.F yr UE – Llywodraeth Cymru (2007)
Canolfan Adnoddau Technoleg a Rennir K.E.F yr UE – Llywodraeth Cymru (2005)
Cymwysterau
- HND Marchnata Ffasiwn
- BA ac MA mewn Addysg Ôl-orfodol.
- TAR
- MSc Rheolaeth
Ieithoedd a Siaradwyd
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol
• Gwobr ‘Rising Star’ y Sunday Times am Academia (2019)
• Rownd derfynol Gwobr Colegau Cymru am Ddarparu AU mewn AB (2012)
• Gwahoddiad i gwrdd ag EM Y Frenhines ym Mhalas Buckingham am Gyfraniad i Ddiwydiant Dillad Prydain (2009)
• Rownd derfynol Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe (2009)
• Rownd derfynol Gwobrau Fforwm (2007)