Chris Cashin
Cefndir
Mae Chris yn Ddietegydd Cofrestredig (HCPC), Maethegydd Cofrestredig (Y Gymdeithas Maeth) a Maethegydd Chwaraeon (SENr). Dechreuodd ei gyrfa fel Dietegydd yn y GIG lle’r oedd yn Rheolwr Deietegol ac yn arbenigo mewn Diabetes, rheoli pwysau, pediatreg a gastroenteroleg. Yn ogystal, gweithiodd Chris fel Dietegydd mewn Practis Cyffredinol am 15 mlynedd. Ar ôl gadael y GIG, bu’n gweithio fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglen Maetheg israddedig ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd. Yn 2016, dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel Arweinydd ar Faetheg ac yn addysgu ar amrywiaeth o fodylau sy’n gysylltiedig â maetheg yn y portffolio israddedig. Yn ogystal, mae Chris yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MSc mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff sydd wedi’i achredu gan yr SENr.
Pynciau Arbenigol
- Maetheg
- Dadansoddi Deiet a Maetheg Chwaraeon
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Cymwysterau
- Dietegydd Cofrestredig - Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Maethegydd Cofrestredig – Y Gymdeithas Maetheg
- Maethegydd Chwaraeon - Cofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- MSc Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol - Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
- Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ieithoedd a Siaradwyd
Dysgwr Cymraeg
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Addysgu Academaidd
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- Mae wedi ymddangos sawl gwaith yn y cyfryngau ar Radio Wales, BBC Wales a BBC XRAY. The Wellness Scoop - Extra Scoop - Protein