Skip page header and navigation

Cefndir

Yn athro ac addysgwr athrawon profiadol, mae Dave yn arwain y Rhaglenni TAR a BA Addysg Gynradd yn PCYDDS.  

Ymunodd Dave â’r Brifysgol yn 2017 ar ôl bod wrthi’n flaenorol yn addysgu Hanes, Busnes, TG a Chymdeithaseg mewn ysgolion uwchradd, a gweithio ar brosiectau pontio gydag ysgolion cynradd bwydo. Bu hefyd yn gweithio am ddwy flynedd ar blatfform dysgu digidol ‘Hwb’ Llywodraeth Cymru. Mae ei rolau yn cynnwys bod yn diwtor pwnc ar gyfer TAR Hanes, addysgu ar ystod o fodylau ar draws y cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, a chynrychioli buddiannau’r rhaglenni,  myfyrwyr a staff AGA yn y brifysgol ehangach a thu hwnt.   

Mae wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau allanol, gan gynnwys Camau a PYPC. Ar hyn o bryd mae’n astudio am ei ddoethuriaeth. 

Pynciau Arbenigol

  • Hanes mewn Ysgolion
  • Cwricwlwm ac Asesu
  • Addysg Athrawon

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Tra’r oedd yn addysgu, enillodd Dave y Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol gyntaf am ei waith fel defnyddiwr cynnar o offer Google Suite. Yn ogystal â gwasanaethu fel cydlynydd e-ddysgu ysgol gyfan, cefnogodd hefyd ddatblygu dull newydd o gyflwyno’r cwricwlwm, gan gynnwys datblygu cwricwlwm sgiliau blwyddyn 7 i helpu i gefnogi pontio o'r ysgol gynradd.

Fe'i penodwyd yn aelod o Grŵp Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru dros Addysg rhwng 2014 a 2016.

Mae wedi cyfrannu at ystod o gynadleddau fel prif siaradwr ac arweinydd gweithdai. Helpodd hefyd i gydlynu'r rhwydweithiau ar-lein #addcym a #NetworkEd.

Roedd yn rhan o brosiect ymchwil Camau a gefnogodd ddatblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan helpu i hybu dealltwriaeth o syniadau ynghylch dilyniant. Mae'n aelod o bwyllgor Rhwydwaith Addysgwyr Athrawon Hanes, ac mae'n cynrychioli PCYDDS ar Gyngor y Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon (Cymru)

Cymwysterau

  • BA (Anrh) - Hanes ac Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell - Prifysgol Cymru, Aberystwyth
  • TAR (Hanes Uwchradd) - Prifysgol Fetropolitan Abertawe
  • PG Cert (Asesu Addysgol) - Prifysgol Glasgow

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg, Cymraeg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cyngor y Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon (Cymru)
Rhwydwaith Addysgwyr Athrawon Hanes

Dolen i Broffil Orcid